Cân 51 (127)
Myrddiynau o Frodyr
1. Myrdd o fyrddiynau mor ffyddlon,
Tyrfa o frodyr triw;
Iddynt, hanfodol bwysig
Cadw uniondeb yw.
Miloedd a mil fyrddiynau
O bob rhyw lwyth ac iaith
Canant â’u holl nerth glodydd Duw;
Eu sain drwy’r holl fyd aeth.
2. Myrdd o fyrddiynau o frodyr
Oll yn eu mentyll gwyn;
Safant o flaen Jehofah,
Ynddo eu ffydd a lŷn.
Miloedd a mil fyrddiynau.
Cyhoeddi’n llawen wnânt,
‘I Dduw a’r Oen dyledus ŷm;’
Llwyr iachawdwriaeth gânt.
3. Myrdd o fyrddiynau o frodyr,
Eu pregeth â drwy’r ddae’r;
‘Newyddion da tragwyddol,’
Tosturiol addfwyn Air.
Crist fydd yn Fugail arnynt;
Eu harwain hwy a wna
At lân borfeydd a dyfroedd byw.
Eu budd fe sicirha.