Cân 82 (183)
Safle Ieuenctid yn Nhrefn Duw
(Salm 148:12, 13)
1. Yn nhrefn Duw mae lle yn awr i bawb ohonom,
Hen ac ifainc, moli wnawn glân enw Duw.
Gwych yw gwaith ein holl wŷr ifainc a gwyryfon;
Dros y ddaear taenant neges Teyrnas wiw.
Eu tystiolaeth sydd yn daer ac mor foddhaol!
Duwiolfrydig ŷnt â’u siarad ddaw o’r fron!
Gwerthfawr iawn yw eu gwasanaeth i Jehofah;
Dônt â mawr hyfrydwch i’w cyfeillion llon.
2. Chwi rai ifainc sydd yn caru Duw Jehofah
Mae dydd dedwydd llawn hapusrwydd nawr o’ch blaen.
Gwir addewid sydd yng Ngair Duw am Baradwys
Ac at fywyd sydd yn wir edrychwn ’mlaen!
Ond ar hyn o bryd rhaid diodde’ aml bwysau
Gan hen drefn, yn fuan, gaiff ei chosbi’n llawn.
Gwnawn bob ymdrech i wrthsefyll pob temtasiwn;
Teyrngar fôm i’r nefol Deyrnas, deg, uniawn.
3. Ffrindiau gewch ymhlith glân bobol Duw Jehofah;
Peidiwch cyfeillachu dim â chwmni’r byd.
Ymhyfrydwch yn y pethau adeiladol
Sydd ynghlwm yng Ngair ein Duw a’i fwriad drud.
Pan ddaw anawsterau ewch at rai cariadlawn,
D’wedwch wrthynt am eich gofid calon cudd.
Cofiwch hefyd am eich Cyfaill, Duw Jehofah,
Un tosturiol a thrugarog; maddau fydd.
4. Cyd-aelodau’r gynulleidfa lân Gristnogol;
Dyna ydym, ac yn Ben Crist Iesu sydd.
Mewn ffyddlondeb, i’w holl eiriau rhown ystyriaeth,
A gweithredwn gyngor doeth wrth fyw bob dydd.
Peidiwn byth â dilyn patrwm anfoesoldeb,
Ond drwy Air ein Duw fe fedrwn gadw’n lân.
Hen ac ifainc, cydymdrechwn mewn teyrngarwch;
Moli Duw Jehofah’n fythol wnawn ar gân.