Cân 41 (89)
Dwyfol Batrwm Cariad
1. Jehofah, ein Duw, yn ddoeth wnaeth ddarpariad
Drosom ni
Ie, ni,
 theg batrwm dwyfol anhaeddol gariad;
Trugaredd sy,
Trugaredd sy.
Canmolwn ei ffordd o dyner ddisgyblaeth,
Derbyniwn yn llon ei dirion arglwyddiaeth,
Gan ddyfalbarhau mewn rhoddi blaenoriaeth
I garu’n Duw,
Cans Duw cariad yw.
2. Gofalwn i garu bob un o’n brodyr,
Ffyddlon fôm,
Cynnes fôm.
Ein cariad a elwa gan ennill ystyr,
Gochelwn siom,
Gochelwn siom.
O byddwn beunyddiol iddynt yn siriol;
Ymdrechwn i’w cadw’n ffyddlon, teyrngarol;
Ac iddynt rhown gymorth geiriau grasusol;
Rhyngu bodd Duw
Wna’r frawdoliaeth wiw.
3. Jehofah ein Duw, mor drefnus ei luoedd;
Beunydd gwnânt,
Bythol gwnânt
Ei lwyr gyfiawnhau â’u sanctaidd weithredoedd;
I’w foli ânt,
I’w foli ânt.
Cyhoeddwn ei enw nawr ag ymroddiad,
Rhown i’r defaid eraill flas ymgysegriad,
Cans gwas’naethu’n Iôn yw’n cyflawn ddymuniad.
Dyma beth yw
Gwir gariad clodwiw.