Cân 15
Y Greadigaeth yn Datgan Gogoniant Jehofa
(Salm 19)
1. Ysblander nef a draetha’th foliant, Dduw;
Cadwynau’r sêr glodforant allu’n Llyw.
Dy foli wna’r pellterau gloyw, maith;
Jehofa Dduw, rhyfeddol yw dy waith!
Yr eangderau annirnadwy maith
Adroddant glod dy ogoneddus waith.
2. Penodaist derfyn ar ryferthwy môr:
‘Hyd yma’r ei, dim pellach,’ meddit Iôr.
Dy fraich sydd nerthol, estynedig yw;
‘Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio, Dduw?’
Arswydus waith, difesur gread yw;
‘Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio, Dduw?’
3. Dy gyfraith lân, dy dystiolaethau gwir,
Dy ddeddfau uniawn a’th orchmynion pur,
Dymunol ŷnt, tu hwnt i emau coeth;
O’u cadw, aeddfed ddown, ysbrydol ddoeth.
O werth anfeidrol uwch na gemau coeth
Yw’th Air Jehofa Dduw, a’th farnau doeth.
(Gweler hefyd Salm 12:6; 89:7; 144:3; Rhuf. 1:20.)