Cân 6
Gweddi Gwas Duw
Fersiwn Printiedig
1. Arglwydd Jehofa, gwrando ein gweddi;
Boed i’th sanct enw ar bob dim ragori.
Ni phalla’th dosturiaethau, O Dduw;
Pery’th ffyddlondeb inni hyd heddiw.
Estyn wyt i’r ddynolryw
Dy drugaredd mawr, O Dduw.
2. Boed i’n calonnau garu’r gwirionedd;
I ti, ein Iôr, y perthyn clod a mawredd.
Croeso a rown i ddeddf sy’n llesáu;
Ymborth i’th dyner ŵyn boed dy farnau.
Porthi wnawn dy ddefaid rai
Ar dy ddeddfau pur, diau.
3. Dwyfol ddoethineb ddaw oddi uchod;
Meithrin a wnawn ei lles ysbrydol hynod.
Traethwn am glod Penarglwydd sy’n fwyn;
Cariad boed pennaf nodwedd ein hymddwyn.
Eraill wêl rinweddau mwyn
Iôr a gâr ei braidd a’i ŵyn.
(Gweler hefyd Salm 143:10; Ioan 21:15-17; Iago 1:5.)