Cân 14
Gwneud Pob Peth yn Newydd
1. Rhown sylw yn daer i ‘arwyddion yr oes;’
Brenhiniaeth i’w Fab, Duw Jehofa roes.
Mihangel orchfygodd ddraig fawr ei loes;
Fe lenwir y ddaear â dwyfol foes.
(CYTGAN)
Preswylfa Duw sydd gyda dyn,
Dynoliaeth lawen wrtho lŷn.
Helaethrwydd bywyd ddaeth i’w meddiant hwy,
Marwolaeth ni chaiff afael arnynt mwy.
Dae’r adferedig, i hyn sicrwydd sydd:
‘Yn newydd pob peth a fydd.’
2. Disgleiria y Newydd Gaersalem yn wiw;
Teg gymar yr Oen, ei briodferch yw.
Ei llachar brydferthwch a dardd o Dduw,
Hyfrydwch a leinw fyd dynolryw.
(CYTGAN)
Preswylfa Duw sydd gyda dyn,
Dynoliaeth lawen wrtho lŷn.
Helaethrwydd bywyd ddaeth i’w meddiant hwy,
Marwolaeth ni chaiff afael arnynt mwy.
Dae’r adferedig, i hyn sicrwydd sydd:
‘Yn newydd pob peth a fydd.’
3. Yn llewyrch y glendid a berthyn i hon
Cenhedloedd a rodiant yn llawen, llon.
Chwi weision gwas’naethgar dowch ger Ei fron,
Lledaenwch y Gair dros y ddaear gron.
(CYTGAN)
Preswylfa Duw sydd gyda dyn,
Dynoliaeth lawen wrtho lŷn.
Helaethrwydd bywyd ddaeth i’w meddiant hwy,
Marwolaeth ni chaiff afael arnynt mwy.
Dae’r adferedig, i hyn sicrwydd sydd:
‘Yn newydd pob peth a fydd.’
(Gweler hefyd Math. 16:3; Dat. 12:7-9; 21:23-25.)