LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bm rhan 25 t. 29
  • Cyngor ar Ffydd, Ymddygiad, a Chariad

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Cyngor ar Ffydd, Ymddygiad, a Chariad
  • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Erthyglau Tebyg
  • Roedden Nhw’n Ysgrifennu am Iesu
    Dysgu Eich Plant
  • Paul yn Ysgrifennu at y Cynulleidfaoedd
    Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Gwersi Gallwn Ni Eu Dysgu o Ddau Lythyr Pedr
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Rhaid i Ni Frwydro er Mwyn Aros yn y Gwir
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
bm rhan 25 t. 29
Un o ysgrifenwyr y Beibl yn ysgrifennu llythyr

RHAN 25

Cyngor ar Ffydd, Ymddygiad, a Chariad

Iago, Pedr, Ioan, a Jwdas yn ysgrifennu llythyrau i annog eu cyd-Gristnogion

ROEDD Iago a Jwdas yn hanner frodyr i Iesu. Roedd Pedr a Ioan yn ddau o’r deuddeg apostol. Ysgrifennodd y pedwar hyn saith o lythyrau’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Mae’r llythyrau hyn yn cael eu hadnabod wrth enw eu hysgrifenwyr. Pwrpas y cyngor ysbrydoledig yn y llythyrau oedd helpu Cristnogion i aros yn ffyddlon i Jehofa a chadw eu golwg ar Deyrnas Dduw.

Dangos ffydd. Dydy dweud bod gennych chi ffydd ddim yn ddigon. Mae gwir ffydd yn arwain at weithredu. Dywed Iago: “Mae ffydd heb weithredoedd yn farw.” (Iago 2:26) Bydd gweithredu ar sail ein ffydd yn wyneb treialon yn meithrin dyfalbarhad. Mae’n rhaid i’r Cristion ofyn i Dduw am ddoethineb, yn gwbl hyderus y bydd Duw yn ei ateb. Trwy ddyfalbarhau y cawn fendith Duw. (Iago 1:2-6, 12) Pan fo Cristion yn aros yn ffyddlon, bydd Jehofa Dduw yn ymateb. Dywed Iago: “Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi.”—Iago 4:8.

Mae’n rhaid i ffydd y Cristion fod yn ddigon cryf i wrthsefyll temtasiynau a dylanwadau anfoesol. Anogodd Jwdas ei gyd-Gristnogion i “ymuno yn y frwydr o blaid y ffydd” oherwydd awyrgylch anfoesol y cyfnod.—Jwdas 3.

Ymddygiad glân. Mae Jehofa yn disgwyl i’w addolwyr fod yn sanctaidd neu’n lân ym mhob ffordd. Ysgrifenna Pedr: “Byddwch chwithau yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad. Oherwydd y mae’n ysgrifenedig, ‘Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi yn sanctaidd.’” (1 Pedr 1:15, 16) Mae gan Gristnogion batrwm i’w ddilyn. Dywed Pedr: “Dioddefodd Crist yntau er eich mwyn chwi, gan adael ichwi esiampl, ichwi ganlyn yn ôl ei draed ef.” (1 Pedr 2:21) Er bod Cristnogion yn gallu dioddef oherwydd eu bod nhw’n byw yn ôl safonau Duw, maen nhw’n cadw eu “cydwybod yn lân.” (1 Pedr 3:16, 17) Mae Pedr yn annog Cristnogion i ymddwyn yn sanctaidd wrth ddisgwyl am ddydd barn Duw ac am y ddaear newydd “lle bydd cyfiawnder yn cartrefu.”—2 Pedr 3:11-13.

“Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi.”—Iago 4:8

Dangos cariad. “Cariad yw Duw,” meddai’r apostol Ioan. Mae’n esbonio bod Duw wedi dangos ei gariad mawr drwy anfon Iesu “i fod yn aberth cymod dros ein pechodau.” Sut dylai Cristnogion ymateb? Eglura Ioan: “Gyfeillion annwyl, os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd.” (1 Ioan 4:8-11) Mae Cristnogion yn dangos cariad drwy fod yn lletygar a thrwy gynorthwyo ei gilydd.—3 Ioan 5-8.

Sut, felly, gall addolwyr Jehofa ddangos eu bod nhw yn ei garu? Mae Ioan yn ateb: “Dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus.” (1 Ioan 5:3; 2 Ioan 6) Mae’r rhai sy’n ufudd i Dduw yn gwybod yn bendant y bydd Duw, yn ei gariad, yn rhoi iddyn nhw “fywyd tragwyddol.”—Jwdas 21.

​—Yn seiliedig ar Iago; 1 Pedr; 2 Pedr; 1 Ioan; 2 Ioan; 3 Ioan; Jude.

  • Sut gall Cristion ddangos ffydd?

  • Sut mae Duw yn disgwyl i’w addolwyr ymddwyn?

  • Sut mae rhywun yn dangos ei fod yn caru Duw?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu