Cân 81
“Cryfha Ein Ffydd”
(Luc 17:5)
1. Amherffaith ydym ger dy fron, Jehofa;
Y galon ddynol, drwg o’i mebyd yw.
Heb ddangos ffydd yn d’Air a’th addewidion
Ni fedrwn ryngu’th fodd, O gyfiawn Dduw.
(CYTGAN)
Cryfha ein ffydd erfyniwn, O Jehofa,
Rho inni’r hyn ei angen arnom sy’.
Tosturiol Dduw, gwna’n gadarn ffydd dy weision;
Mewn gair a gweithred rhoddwn fawl i ti.
2. Gweithredoedd ffydd, hanfodol ŷnt i’th blesio;
Gwobrwywr ffydd wyt ti, Jehofa Dduw.
Gweithreda’n ffydd yn darian ac yn noddfa;
Dilynwn fuchedd ‘torf o dystion’ triw.
(CYTGAN)
Cryfha ein ffydd erfyniwn, O Jehofa,
Rho inni’r hyn ei angen arnom sy’.
Tosturiol Dduw, gwna’n gadarn ffydd dy weision;
Mewn gair a gweithred rhoddwn fawl i ti.
(Gweler hefyd Gen. 8:21; Heb. 11:6; 12:1.)