Cân 33
Peidiwch â’u Hofni!
1. Bwriwch ’mlaen fy mhobl ffyddlon;
Am y Deyrnas traethwch chi,
Peidiwch ofni’r gelyn lu.
D’wedwch wrth bawb addfwyn sy’
Fod Crist Iesu wedi llorio
‘duw y byd hwn,’ awdur gwae;
Teflir Satan drwg i’r pydew.
Rhyddid gaiff y meirwon rai.
(CYTGAN)
Paid â’u hofni, O f’anwylyd—
Parod wyf i’th gynnal di.
Amhrisiadwy wyt a ffyddlon,
Trysor yn fy ngolwg i.
2. Torf ddichellgar a thwyllodrus
Bygwth wnânt yn ddiymwad
Eich uniondeb â’u sarhad;
Dyrys fydd eu dwys berswâd.
Hwy nac ofnwch, fy rhyfelwyr;
Os daw erlid, sefyll gwnewch.
Eu hamddiffyn gaiff y ffyddlon.
Gweld mawr fuddugoliaeth gewch.
(CYTGAN)
Paid â’u hofni, O f’anwylyd—
Parod wyf i’th gynnal di.
Amhrisiadwy wyt a ffyddlon,
Trysor yn fy ngolwg i.
3. Fi yw’ch nerth, myfi yw’ch tarian,
Byddwch yn fy ngho’n barhaus.
Er ich syrthio ar y maes,
Ildia angau i fy llais.
Dyn ni all ddinistrio’r enaid,
Lladdwyr corff nac ofnwch chi.
Hyd y diwedd byddwch ffyddlon;
O’ch blaen bywyd bythol sy’!
(CYTGAN)
Paid â’u hofni, O f’anwylyd—
Parod wyf i’th gynnal di.
Amhrisiadwy wyt a ffyddlon,
Trysor yn fy ngolwg i.
(Gweler hefyd Deut. 32:10; Neh. 4:14; Salm 59:1; 83:2, 3.)