EIN BYWYD CRISTNOGOL
Ymddygiad Cwrtais Wrth y Drws
Mae Cristnogion “yn sioe i ddifyrru’r byd.” (1Co 4:9) Felly, ni ddylai beri syndod i ni fod rhai deiliaid yn gwylio y tu ôl i’r llenni neu yn gwrando y tu ôl i’r drws. Efallai fod yna gamera diogelwch a meicroffon sy’n recordio popeth. Dyma rai ffyrdd i ddangos cwrteisi wrth y drws.—2Co 6:3.
DRWY DY YMDDYGIAD (Php 1:27):
Rhaid parchu preifatrwydd y deiliad drwy beidio â sbio trwy’r ffenestri. Paid â bwyta, nac yfed, na gwneud galwad ffôn, neu anfon negeseuon testun tra dy fod ti’n sefyll wrth y drws
DRWY DY EIRIAU (Eff 4:29):
Wrth sefyll wrth y drws, paid â dweud dim nad wyt ti eisiau i’r deiliad ei glywed. Mae’n well gan rai cyhoeddwyr stopio sgwrsio’n gyfan gwbl er mwyn iddyn nhw allu meddwl am yr hyn maen nhw eisiau ei ddweud