LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwhf erthygl 21
  • Ffordd Well o Edrych ar Dueddiadau Annifyr

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ffordd Well o Edrych ar Dueddiadau Annifyr
  • Help ar Gyfer y Teulu
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Golwg gwell ar dueddiadau annifyr
  • Canllaw Trafod
  • 3 Parch
    Deffrwch!—2018
  • Sut i Adael Gwaith yn y Gweithle
    Help ar Gyfer y Teulu
  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Priodas?
    Deffrwch!—2021
  • Help i Reoli Eich Tymer
    Help ar Gyfer y Teulu
Gweld Mwy
Help ar Gyfer y Teulu
ijwhf erthygl 21
Dyn dig yn eistedd ar ei ben ei hun wrth fwrdd cinio tra bo’i wraig yn mwynhau sgwrs fywiog gyda chwpl.

HELP AR GYFER Y TEULU | PRIODAS

Ffordd Well o Edrych ar Dueddiadau Annifyr

  • Rydych chi’n hoffi gwneud penderfyniadau yn y fan a’r lle; mae’ch cymar angen cynllunio popeth o flaen llaw.

  • Un distaw a swil ydych chi; mae’ch cymar yn llawn hwyl ac yn hoff iawn o gymdeithasu.

Oes gan eich priod dueddiad sy’n mynd o dan eich croen? Gall canolbwyntio ar hynny wneud niwed i’ch priodas. Yn wir mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r sawl sy’n ailadrodd stori yn gwahanu cyfeillion.”—Diarhebion 17:9, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Yn hytrach na gadael i dueddiad annifyr achosi problem rhyngoch chi a’ch priod, efallai gallwch chi weld y tueddiad hwnnw mewn ffordd fwy positif.

Yn yr erthygl hon

  • Golwg gwell ar dueddiadau annifyr

  • Beth mae gwŷr a gwragedd yn ei ddweud

  • Canllaw trafod

Golwg gwell ar dueddiadau annifyr

Efallai bod tueddiad annifyr eich priod yn gysylltiedig â rhinwedd rydych chi’n ei edmygu. Ystyriwch tair esiampl:

“Bydd fy ngŵr yn aml yn araf i wneud pethau, neu yn cymryd ei amser wrth baratoi i fynd i rywle. Ond mae’r un tueddiad yn ei wneud yn amyneddgar—hyd yn oed gyda fi. Weithiau bydd ei arafwch yn codi fy ngwrychyn, ond mae hynny’n rhan o beth dw i’n caru ynddo.”—Chelsea.

“Mae fy ngwraig yn cynllunio pethau yn fanwl o flaen llaw; mae hi angen teimlo bod popeth o dan reolaeth, sy’n gallu bod yn boen. Ar y llaw arall mae hynny’n golygu na fydd hi byth yn gadael pethau i hap a damwain.”—Christopher.

“Gall fy ngŵr ddod drosodd yn ddi-hid weithiau, sy’n rhwystredig. Ar yr un pryd, mae ei agwedd hamddenol yn un o’r rhinweddau wnaeth fy nenu fi ato yn y lle cyntaf. Dw i’n edmygu ei allu i beidio â chynhyrfu a dal ati heb ffys na ffwdan pan fyddwn ni o dan bwysau.”—Danielle.

Fel dysgodd Chelsea, Christopher, a Danielle, gall cryfderau a gwendidau fod yn wahanol agweddau ar yr un rhinwedd. Mewn achosion felly, allwch chi ddim cael gwared ar y gwendid heb gael gwared ar y cryfder hefyd, dim mwy na allwch chi gael gwared ar ddim ond un ochr o’r geiniog.

Wrth gwrs, does gan rai tueddiadau ddim ochr bositif. Er enghraifft, mae’r Beibl yn cyfaddef bod rhai pobl yn “gwylltio’n hawdd.” (Diarhebion 29:22) Yn yr achos hwnnw, dylai rhywun gwneud pob ymdrech i “beidio bod yn chwerw, peidio colli tymer a gwylltio, codi twrw, hel straeon cas, a bod yn faleisus.”a—Effesiaid 4:31.

Ond pan fydd rhyw dueddiad jest yn mynd ar eich nerfau, dilynwch gyngor y Beibl: “Byddwch yn oddefgar, . . . [hyd yn oed] pan ’dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi.”—Colosiaid 3:13.

Yn ogystal â hyn, ceisiwch gael hyd i ochr positif y tueddiad, agwedd y gallai fod wedi eich denu at eich priod yn y lle cyntaf. Mae gŵr o’r enw Joseph yn dweud, “Mae canolbwyntio ar dueddiad annifyr yn debyg i sylwi ar ochr miniog diemwnt ond heb werthfawrogi ei harddwch.”

Beth mae gwŷr a gwragedd yn ei ddweud

Derrick a Haley.

“Pryd bynnag mae fy ngwraig neu finnau yn mynd yn ddig oherwydd tueddiad y llall, ’dyn ni’n ceisio meddwl am sefyllfaoedd lle gallai’r tueddiad hwnnw fod yn ddefnyddiol.”—Derrick, gyda’i wraig, Haley.

Mikiah a Curtis.

“Gallwn ni anwybyddu tueddiad pan sylweddolwn sut mae’r natur hwnnw yn rhan o’r cymeriad wnaethon ni syrthio mewn cariad ag ef yn y lle cyntaf.”—Mikaiah, gyda’i gŵr, Curtis.

Canllaw Trafod

Yn gyntaf, gall y ddau ohonoch chi ystyried y cwestiynau canlynol ar wahân. Wedyn cewch drafod yr atebion gyda’ch gilydd.

  • Oes gan eich priod dueddiad rydych chi’n teimlo ei bod yn achosi problem yn y briodas? Os felly, beth yw’r tueddiad hwnnw?

  • Ydy’r tueddiad yn wendid gwirioneddol ddrwg, neu dim ond yn mynd ar eich nerfau?

  • Oes ’na ochr bositif i’r tueddiad? Os felly, beth ydy hi, a pham rydych chi’n gwerthfawrogi’r agwedd honno o bersonoliaeth eich cymar?

a Gweler yr erthyglau “Help i Reoli Eich Tymer,” “How to Avoid Hurtful Speech,” a “How to Stop Arguing.”

Adolygu: Sut gallwch chi ddelio â thueddiadau annifyr eich priod?

Cadwch y pwyntiau hyn mewn meddwl:

  • Gall canolbwyntio ar dueddiadau annifyr eich priod fod yn niweidiol i’ch priodas.

  • Gall tueddiad annifyr fod yn gysylltiedig â rhinwedd rydych chi’n ei edmygu, efallai un wnaeth denu chi at eich cymar yn y lle cyntaf.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu