LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g19 Rhif 3 tt. 8-9
  • Perthynas â Theulu a Ffrindiau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Perthynas â Theulu a Ffrindiau
  • Deffrwch!—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BYDDWCH YN ANHUNANOL
  • BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
  • DEWISWCH FFRINDIAU YN DDOETH
  • EGWYDDORION ERAILL O’R BEIBL
  • Dangosa Gydymdeimlad
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • A Oes Gan Dduw Empathi?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2018
  • Bod yn Ddoeth Wrth Ddewis Ffrindiau
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Perthynas â’ch Ffrindiau?
    Deffrwch!—2021
Gweld Mwy
Deffrwch!—2019
g19 Rhif 3 tt. 8-9
Teulu a ffrindiau yn mwynhau picnic gyda’i gilydd

Perthynas â Theulu a Ffrindiau

Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd cadw perthynas agos â theulu a ffrindiau. Ystyriwch egwyddorion o’r Beibl a all eich helpu i wella’ch perthynas ag eraill.

BYDDWCH YN ANHUNANOL

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.”—Philipiaid 2:4.

BETH MAE’N EI OLYGU? Bydd canolbwyntio mwy ar roi na derbyn yn gwella eich perthynas ag eraill, ond bydd byw mewn ffordd hunanol yn ei difetha. Er enghraifft, mae gwŷr neu wragedd hunanol yn fwy tebygol o fod yn anffyddlon i’w gilydd. Hefyd, does neb eisiau bod yn ffrind i rywun sydd o hyd yn tynnu sylw at ei eiddo neu ei addysg. Felly, mae’r llyfr The Road to Character yn dweud, “bydd gan bobl sy’n meddwl am neb heblaw eu hunain lawer o broblemau.”

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Helpu eraill. Mae ffrindiau da yn ymddiried yn ei gilydd ac yn helpu ei gilydd. Dywed rhai ymchwilwyr fod pobl sy’n helpu eraill yn dioddef llai o iselder ac mae eu hunan-barch yn cynyddu.

  • Dangos empathi. Un esboniad o empathi yw teimlo poen rhywun arall yn eich calon eich hun. Os ydych chi’n cydymdeimlo ag eraill, byddwch chi’n llai tebygol o ddefnyddio geiriau cas neu jôcs sarcastig gyda’r bwriad o frifo teimladau rhywun.

    Wrth ddangos empathi, byddwch yn dysgu goddef pobl eraill. Felly, gall cydymdeimlad eich helpu i osgoi dangos rhagfarn ac i wneud ffrindiau â phobl o wahanol gefndiroedd.

  • Rhoi o’ch amser. Rydych chi’n dod i adnabod pobl yn well drwy dreulio mwy o amser gyda nhw. Er mwyn gwneud ffrindiau go iawn, mae’n rhaid sgwrsio â nhw am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Felly, dysgwch wrando arnyn nhw a dangos diddordeb ynddyn nhw. Dywed un astudiaeth ddiweddar: “Gall sgyrsiau ystyrlon wneud i bobl deimlo’n hapusach.”

DEWISWCH FFRINDIAU YN DDOETH

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.”—1 Corinthiaid 15:33.

BETH MAE’N EI OLYGU? Mae’r bobl o’n cwmpas yn ddylanwad da neu ddrwg arnon ni. Mae cymdeithasegwyr yn cytuno y gall dylanwad o’r fath effeithio ar ein bywyd. Er enghraifft, maen nhw’n dweud eich bod chi’n fwy tebygol o ddechrau ysmygu neu gael ysgariad os ydy’ch ffrindiau agos yn ysmygu neu’n ysgaru.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD? Gwnewch ffrindiau â phobl sy’n dangos y rhinweddau rydych chi’n eu hedmygu neu eisiau eu hefelychu. Ceisiwch dreulio amser â phobl sy’n llawn tact, yn hael, yn barchus, ac yn lletygar.

EGWYDDORION ERAILL O’R BEIBL

Dynes yn dangos fideo Beiblaidd i ferch ifanc

Gwyliwch fideos Beiblaidd sydd wedi eu dylunio i helpu cyplau priod, arddegwyr, a phlant ifanc i wella eu bywyd teuluol

OSGOWCH EIRIAU CAS.

“Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu.”—DIARHEBION 12:18.

BYDDWCH YN HAEL.

“Mae’r bobl sy’n fendith i eraill yn llwyddo.”—DIARHEBION 11:25.

GWNEWCH I ERAILL BETH RYDYCH CHI EISIAU IDDYN NHW EI WNEUD I CHI.

“Dylech chi bob amser drin pobl eraill fel byddech chi’n hoffi iddyn nhw’ch trin chi.”—MATHEW 7:12.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu