YMDOPI Â’R CYNNYDD MEWN PRISIAU
Bod yn Fodlon
Mae pobl fodlon yn hapus gyda’r hyn sydd ganddyn nhw. Ac wrth i’w hamgylchiadau newid, maen nhw’n newid eu ffordd o fyw er mwyn peidio â gwario mwy na’u hincwm.
PAM MAE’N BWYSIG?
Yn ôl y seicolegydd Jessica Koehler, mae pobl fodlon eu byd yn tueddu i fod yn fwy positif. Gwelodd hi hefyd eu bod nhw’n llai cenfigennus. Felly nid yw’n syndod fod pobl fodlon, fel arfer, yn hapusach ac yn teimlo llai o straen. Yn wir, mae rhai o’r bobl hapusaf yn meddu ar ychydig iawn. Mae hynny yn arbennig o wir am bobl sy’n gwerthfawrogi pethau na allan nhw mo’u prynu am arian, fel y pleser o dreulio amser gyda’u teuluoedd a ffrindiau.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
Peidiwch â chymharu. Os ydych chi’n cymharu eich bywyd syml â bywyd moethus rhywun arall, mae’n hawdd mynd yn anfodlon neu hyd yn oed yn genfigennus. Ac mae’n hollol bosib nad yw pethau fel maen nhw’n ymddangos. Mae rhai sydd â llawer o bethau moethus wedi mynd i ddyled ddifrifol. Dywed Nicole, sy’n byw yn Senegal: “Does dim angen llawer o bethau arna i i fod yn hapus. Os ydw i’n fodlon, galla i fod yn hapus hyd yn oed pan fydd gan eraill fwy na mi.”
Rhowch gynnig ar hyn: Peidiwch ag edrych ar hysbysebion neu bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n tynnu sylw at gyfoeth neu fywydau moethus a gwastraffus pobl eraill.
Byddwch yn ddiolchgar. Mae pobl ddiolchgar yn tueddu i fod yn hapusach ac yn llai tueddol o deimlo eu bod nhw’n haeddu mwy neu angen mwy. Mae Roberton, o Haiti, yn dweud: “Dw i’n cymryd amser i feddwl am y pethau caredig mae eraill wedi eu gwneud i mi ac i fy nheulu. Yna dw i’n dweud wrthyn nhw faint dw i’n gwerthfawrogi eu caredigrwydd. Dw i hefyd yn dysgu fy mab, sy’n wyth oed, i ddweud diolch am bopeth mae’n ei dderbyn.”
Rhowch gynnig ar hyn: Bob dydd, nodwch rywbeth rydych chi’n ddiolchgar amdano mewn dyddiadur. Gallwch gynnwys pethau fel iechyd da, teulu clòs, ffrindiau go iawn, neu hyd yn oed gwawr ogoneddus.
Ar adegau, rydyn ni i gyd yn ei chael hi’n anodd bod yn fodlon. Ond mae’n werth yr ymdrech! Drwy ddewis bod yn fodlon, rydyn ni’n dewis bod yn hapus—ac mae hynny yn beth arall na allwn ni mo’i brynu am arian.