GWERS 05
Neges Oddi Wrth Dduw Yw’r Beibl
Mae Jehofa wedi rhoi’r Beibl inni. Y mae’n anrheg arbennig sy’n cynnwys 66 llyfr. Ond efallai eich bod chi’n gofyn: ‘O le daeth y Beibl? Pwy ydy awdur y Beibl?’ Er mwyn ateb y cwestiynau hyn, gadewch inni weld sut mae neges Duw yn y Beibl wedi dod aton ni.
1. Dynion a ysgrifennodd y Beibl, felly pam gallwn ni ddweud mai Duw yw’r Awdur?
Cafodd y Beibl ei ysgrifennu gan oddeutu 40 o ysgrifenwyr dros gyfnod o ryw 1,600 o flynyddoedd, o 1513 COG i tua 98 OG. Roedd yr ysgrifenwyr yn dod o wahanol gefndiroedd. Er hynny, mae’r Beibl cyfan yn gytûn. Mae hyn yn bosib oherwydd mai Duw yw’r Awdur. (Darllenwch 1 Thesaloniaid 2:13.) Nid oedd yr ysgrifenwyr yn cofnodi eu meddyliau eu hunain. Yn hytrach, “siaradodd dynion yr hyn a ddaeth oddi wrth Dduw wrth iddyn nhw gael eu symud gan yr ysbryd glân.”a (2 Pedr 1:21) Defnyddiodd Duw ei ysbryd glân i ysbrydoli, neu i annog, dynion i gofnodi ei feddyliau ef.—2 Timotheus 3:16.
2. Pwy sy’n gallu elwa ar y Beibl?
Gall pobl o “bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl” elwa ar y newyddion da sydd yn y Beibl. (Darllenwch Datguddiad 14:6. Heddiw, mae’r Beibl ar gael mewn mwy o ieithoedd nag unrhyw lyfr arall. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gallu cael copi o’r Beibl ni waeth ble maen nhw’n byw, neu pa iaith maen nhw’n ei siarad.
3. Sut mae Jehofa wedi sicrhau bod y Beibl yn goroesi?
Cafodd y Beibl ei ysgrifennu ar bapyrws a lledr, deunyddiau sydd ddim yn para’n hir. Ond roedd dynion a oedd yn caru’r Beibl yn ei gopïo a’i ailgopïo â llaw. Er bod llywodraethwyr ac arweinwyr crefyddol wedi ceisio cael gwared ar y Beibl, roedd eraill yn fodlon marw i’w amddiffyn. Dydy Jehofa ddim wedi gadael i neb ei rwystro rhag cyfathrebu â ni. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae neges yr ARGLWYDD yn aros am byth!”—Eseia 40:8.
CLODDIO’N DDYFNACH
Dysgwch fwy am sut mae Duw wedi ysbrydoli dynion i ysgrifennu’r Beibl a sut y mae wedi ei amddiffyn a sicrhau ei fod ar gael i’r ddynoliaeth.
4. Mae’r Beibl yn dweud pwy yw ei Awdur
Gwyliwch y FIDEO. Yna darllenwch 2 Timotheus 3:16, a thrafodwch y cwestiynau canlynol:
Os mai dynion a ysgrifennodd y Beibl, pam y mae’n cael ei alw’n Air Duw?
Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n rhesymol i gredu y byddai Duw yn gallu cyfleu ei feddyliau ef i ysgrifenwyr dynol?
Efallai ysgrifennydd fydd yn teipio’r llythyr, ond daw’r neges oddi wrth yr un a ddywedodd wrtho beth i’w ysgrifennu. Yn yr un modd, dynion a ysgrifennodd y Beibl ond daeth y neges oddi wrth Dduw.
5. Mae’r Beibl wedi goroesi ymosodiadau
Os ydy’r Beibl yn llyfr oddi wrth Dduw, bydden ni’n disgwyl i Dduw ei amddiffyn. Drwy gydol hanes, mae dynion pwerus wedi ceisio dinistrio’r Beibl. Mae arweinwyr crefyddol wedi ceisio ei guddio. Ond er gwaethaf gwrthwynebiad a bygythiadau difrifol, mae llawer wedi bod yn fodlon mentro eu bywydau er mwyn amddiffyn y Beibl. I ddysgu am un o’r bobl hynny, gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:
Ydy gwybod am yr holl waith o gadw’r Beibl yn ddiogel yn gwneud ichi eisiau ei ddarllen? Pam?
Darllenwch Salm 119:97, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Beth a ysgogodd llawer o bobl i fentro eu bywydau i gyfieithu a dosbarthu’r Beibl?
6. Llyfr i bawb
Mae’r Beibl wedi cael ei gyfieithu a’i ddosbarthu yn fwy nag unrhyw lyfr arall erioed. Darllenwch Actau 10:34, 35, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Pam mae Duw yn dymuno i’w Air gael ei gyfieithu i gymaint o ieithoedd a’i ddosbarthu mor eang?
Beth sy’n apelio atoch chi am y Beibl?
Mae bron
100%
o boblogaeth y byd
yn gallu darllen y Beibl mewn iaith maen nhw’n ei deall
Ar gael mewn mwy na
3,000
o ieithoedd
yn rhannol neu’n gyfan
5,000,000,000
Amcangyfrif o’r nifer o Feiblau sydd wedi eu cynhyrchu,
llawer mwy nag unrhyw lyfr arall
BYDD RHAI YN DWEUD: “Hen lyfr ydy’r Beibl, wedi ei ysgrifennu gan ddynion.”
Beth rydych chi’n ei feddwl?
Pa dystiolaeth sy’n dangos mai Gair Duw ydy’r Beibl?
CRYNODEB
Gair Duw ydy’r Beibl, ac mae Duw wedi sicrhau ei fod ar gael i bawb.
Adolygu
Mae Duw wedi ysbrydoli dynion i ysgrifennu’r Beibl, ond beth mae hynny’n ei olygu?
Beth sy’n eich taro chi am y ffordd mae’r Beibl wedi goroesi a chael ei gyfieithu a’i ddosbarthu?
Sut rydych chi’n teimlo am yr ymdrech mae Duw wedi ei wneud i gyfathrebu â chi?
DARGANFOD MWY
Darllenwch am hanes y Beibl—o’r llawysgrifau gwreiddiol i’r cyfieithiad modern.
Dysgwch sut mae’r Beibl wedi goroesi tri bygythiad mawr yn ei erbyn.
Gwelwch enghreifftiau o bobl a oedd yn mentro eu bywydau i gyfieithu’r Beibl.
Mae’r Beibl wedi cael ei gopïo a’i gyfieithu llawer o weithiau. Sut gallwch chi fod yn sicr nad yw neges Duw wedi newid?
“Ydy’r Beibl Wedi Cael ei Newid Neu ei Addasu?” (Erthygl ar jw.org)