Exodus
10 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dos i mewn at Pharo, oherwydd rydw i wedi caniatáu i’w galon a chalonnau ei weision fod yn ystyfnig fel bod Pharo yn gallu gweld drosto’i hun y gwyrthiau rydw i’n eu gwneud, 2 ac fel y byddi di’n gallu dweud wrth dy feibion a dy wyrion pa mor llym oeddwn i wrth ddelio â’r Aifft a pha wyrthiau y gwnes i yn eu mysg, a byddwch chi yn sicr yn gwybod mai fi yw Jehofa.”
3 Felly aeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo a dweud wrtho: “Dyma beth mae Jehofa, Duw’r Hebreaid, wedi ei ddweud, ‘Pa mor hir byddi di’n gwrthod ymostwng imi? Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw gael fy ngwasanaethu i. 4 Oherwydd os byddi di’n parhau i wrthod anfon fy mhobl i ffwrdd, yna bydda i’n dod â locustiaid i mewn i dy wlad yfory. 5 A byddan nhw’n gorchuddio wyneb y ddaear, ac ni fydd yn bosib i weld y llawr. Byddan nhw’n bwyta popeth a gafodd ei adael ichi yn dilyn y cenllysg,* a byddan nhw’n bwyta’r holl goed sydd yn y caeau. 6 Byddan nhw’n llenwi eich tai, tai eich gweision i gyd, a holl dai’r Aifft i raddau nad ydy eich tadau na’ch teidiau* erioed wedi eu gweld o’r blaen.’” Gyda hynny, trodd Moses ac Aaron a mynd allan oddi wrth Pharo.
7 Yna dywedodd gweision Pharo wrtho: “Am faint mwy bydd y dyn hwn yn parhau i’n peryglu ni? Anfona’r dynion i ffwrdd er mwyn iddyn nhw wasanaethu Jehofa eu Duw. Onid wyt ti wedi sylweddoli eto fod yr Aifft wedi cael ei difetha?” 8 Felly cafodd Moses ac Aaron eu cymryd yn ôl at Pharo, a dywedodd wrthyn nhw: “Ewch, gwasanaethwch Jehofa eich Duw. Ond pwy yn union fydd yn mynd?” 9 Yna atebodd Moses: “Byddwn ni’n mynd gyda’n pobl ifanc, ein pobl hŷn, ein meibion, ein merched, ein defaid, a’n gwartheg, oherwydd byddwn ni’n cynnal gŵyl i Jehofa.” 10 Dywedodd Pharo wrthyn nhw: “A ydych chi’n wir yn meddwl y byddwn i’n eich anfon chi a’ch plant i ffwrdd? Petai hynny’n digwydd, yna mae’n wir, mae Jehofa gyda chi! Mae’n amlwg eich bod chi’n bwriadu gwneud rhywbeth drwg. 11 Na! Dim ond eich dynion fydd yn cael mynd i wasanaethu Jehofa, oherwydd dyna beth wnaethoch chi ofyn amdano.” Gyda hynny cawson nhw eu gyrru allan oddi wrth Pharo.
12 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Estynna dy law allan dros wlad yr Aifft fel bydd y locustiaid yn dod i fyny dros y wlad ac yn bwyta’r holl blanhigion, popeth sydd ar ôl yn dilyn y cenllysg.”* 13 Ar unwaith dyma Moses yn estyn ei ffon dros wlad yr Aifft, ac achosodd Jehofa i wynt o’r dwyrain chwythu ar y tir drwy’r dydd hwnnw a thrwy’r nos. Erbyn y bore, roedd gwynt y dwyrain wedi dod â locustiaid. 14 A daeth y locustiaid i fyny dros yr Aifft i gyd a setlo ar holl diriogaeth yr Aifft. Roedd yn bla difrifol; fuodd ’na erioed bla tebyg o locustiaid, a fydd ’na ddim un tebyg byth eto. 15 Gwnaethon nhw orchuddio’r tir i gyd, ac roedd y ddaear yn dywyll o’u hachos nhw, a gwnaethon nhw ddifetha holl blanhigion y tir a holl ffrwyth y coed a oedd ar ôl yn dilyn y cenllysg;* doedd dim byd gwyrdd ar ôl ar y coed nac ar blanhigion y caeau drwy holl wlad yr Aifft.
16 Felly dyma Pharo yn galw Moses ac Aaron ar unwaith ac yn dweud: “Rydw i wedi pechu yn erbyn Jehofa eich Duw ac yn eich erbyn chi. 17 Nawr, plîs, maddeuwch imi am fy mhechod y tro hwn yn unig, ac erfyniwch ar Jehofa eich Duw iddo gymryd y pla marwol hwn i ffwrdd.” 18 Felly aethon nhw allan oddi wrth Pharo ac erfyniodd Moses ar Jehofa. 19 Yna achosodd Jehofa i’r gwynt newid, a dechreuodd gwynt cryf iawn o’r gorllewin chwythu, a chario’r locustiaid i ffwrdd a’u gyrru nhw i mewn i’r Môr Coch. Doedd dim un locust ar ôl yn holl diriogaeth yr Aifft. 20 Ond, gwnaeth Jehofa ganiatáu i galon Pharo droi’n ystyfnig, ac ni wnaeth ef anfon yr Israeliaid i ffwrdd.
21 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Estynna dy law tua’r nef fel bod ’na dywyllwch dros wlad yr Aifft, tywyllwch mor drwchus fel ei bod hi’n bosib ei deimlo.” 22 Ar unwaith estynnodd Moses ei law tuag at y nef, ac roedd ’na dywyllwch llwyr drwy wlad yr Aifft am dri diwrnod. 23 Doedd yr Eifftiaid ddim yn gallu gweld ei gilydd, ac ni wnaeth yr un ohonyn nhw godi o le roedden nhw am dri diwrnod; ond roedd gan yr Israeliaid i gyd olau yn eu tai. 24 Yna dyma Pharo yn galw Moses ato, a dywedodd wrtho: “Ewch, gwasanaethwch Jehofa. Dim ond eich defaid a’ch gwartheg fydd yn aros ar ôl. Bydd hyd yn oed eich plant yn cael mynd gyda chi.” 25 Ond dywedodd Moses: “Byddi di dy hun hefyd yn rhoi aberthau ac offrymau llosg inni, a byddwn ni’n eu cynnig nhw i Jehofa ein Duw. 26 Bydd ein hanifeiliaid ni hefyd yn mynd gyda ni. Ni fydd yr un anifail yn cael aros, oherwydd byddwn ni’n defnyddio rhai ohonyn nhw i addoli Jehofa ein Duw, a dydyn ni ddim yn gwybod beth byddwn ni’n ei offrymu i Jehofa nes inni gyrraedd yno.” 27 Felly caniataodd Jehofa i galon Pharo droi’n ystyfnig, ac ni wnaeth ef gytuno i’w hanfon nhw i ffwrdd. 28 Dywedodd Pharo wrtho: “Dos allan o fy ngolwg i! Gwna’n siŵr nad wyt ti’n trio gweld fy wyneb i eto, oherwydd ar y diwrnod byddi di’n gweld fy wyneb, byddi di’n marw.” 29 Atebodd Moses: “Yn union fel rwyt ti wedi dweud, wna i ddim trio gweld dy wyneb di eto.”