Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd Ddydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Hydref
“Y dyddiau hyn mae pob teulu o dan rywfaint o straen. Lle’r ydych chi’n meddwl cawn ni arweiniad y gallwn ni ddibynnu arno?” Gadewch i ddeiliad y tŷ ymateb. Yna, rhowch gopi o’r Watchtower Hydref 1 iddo, ac ystyriwch y wybodaeth o dan un o’r isbenawdau ar dudalennau 16 a 17 ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y cylchgronau a threfnwch fynd yn ôl i drafod un o’r cwestiynau eraill.
The Watchtower Hydref 1
Dangoswch glawr y cylchgrawn, a gofynnwch, “Sut fyddech chi’n teimlo ’tasech chi’n darganfod bod rhywun wedi dweud celwydd wrthoch chi ynglŷn â Duw? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch beth ddywedodd Iesu am y ffordd gallwn ni wahaniaethu rhwng y gwirionedd a chelwyddau. [Darllenwch Ioan 17:17.] Dim ond y Beibl sy’n dweud y gwir am Dduw. Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod pum celwydd cyffredin am Dduw ac yn dangos sut mae’r Beibl yn eu chwalu.”
Awake! Hydref
“Rydyn ni’n galw heddiw gyda gwybodaeth arbennig i helpu teuluoedd. Beth fyddech chi’n dweud yw’r her fwyaf sy’n wynebu rhieni heddiw wrth fagu plant? [Arhoswch am ymateb.] Mae llawer o rieni yn troi at y Beibl am gyngor. Er enghraifft, mae’r geiriau hyn yn ein helpu ni wrth ddisgyblu plant. [Darllenwch Effesiaid 4:31.] Mae’r cylchgrawn hwn yn dangos sut gall cyngor y Beibl helpu rhieni sydd â phlant o bob oedran.”