Cyflwyno’r Neges yn Effeithiol
1. Beth y gallwn ni ei ddysgu o’r ffyrdd gwahanol yr oedd y Cristnogion cynnar yn cyflwyno neges y Deyrnas?
1 Roedd y Cristnogion cynnar yn pregethu’r newyddion da i bobl o wahanol gefndiroedd a chrefyddau. (Col. 1:23) Er mai’r un neges oedd hi—sef Teyrnas Dduw—roedden nhw’n amrywio’r ffordd y bydden nhw’n cyflwyno’r neges honno yn ôl y gynulleidfa. Er enghraifft, pan siaradodd Peter ag Iddewon a oedd yn parchu’r Ysgrythurau, dechreuodd drwy ddyfynnu geiriau’r proffwyd Joel. (Act. 2:14-17) Ar y llaw arall, sylwch ar yr adnodau yn Actau 17:22-31 i weld sut y rhesymodd Paul gyda’r Groegwyr. Heddiw, mae pobl mewn rhai ardaloedd yn dal i barchu’r Ysgrythurau a does dim rhaid inni ddal yn ôl rhag defnyddio’r Beibl wrth fynd o dŷ i dŷ. Ond gyda phobl sydd heb unrhyw ddiddordeb yn y Beibl nac ychwaith mewn crefydd, neu gyda phobl sy’n perthyn i grefydd nad yw’n un Gristnogol, efallai bydd angen inni gyflwyno ein neges mewn ffordd wahanol.
2. Sut gallwn ni gynnig cyhoeddiadau a fydd yn helpu pobl sydd ag agweddau gwahanol tuag at y Beibl?
2 Defnyddio Ein Cyhoeddiadau’n Effeithiol: Bydd y cyhoeddiadau rydyn ni’n eu cynnig yn y weinidogaeth yn newid bob yn ail fis eleni. Byddwn ni’n defnyddio cylchgronau, traethodynnau, a llyfrynnau. Hyd yn oed os nad oes gan y bobl yn ein tiriogaeth ddiddordeb yn y Beibl, fe allwn ni gynnig rhywbeth a all ennyn eu diddordeb. Efallai fyddwn ni ddim yn darllen adnod, nac yn cyfeirio’n uniongyrchol at y Beibl ar yr alwad gyntaf, ond os yw’r person yn dangos diddordeb, fe allwn ni fynd yn ôl i geisio ei helpu i adeiladu ffydd yn y Creawdwr ac yn ei Air. Ar y llaw arall, os ydyn ni’n pregethu i bobl sy’n parchu’r Beibl, medrwn ni drafod pynciau a chynnig cyhoeddiadau sy’n adlewyrchu hynny. Mewn gwirionedd, fe allwn ni gynnig y llyfr Beibl Ddysgu neu’r llyfryn Gwrando ar Dduw a Byw am Byth ar unrhyw adeg, beth bynnag yw’r cynnig ar gyfer y mis. Y peth pwysicaf yw cyflwyno’r neges yn effeithiol.
3. Ym mha ffordd y mae calonnau pobl yn ein tiriogaeth yn debyg i bridd?
3 Paratoi’r Pridd: Mae’r galon yn debyg i bridd. (Luc 8:15) Mae angen mwy o waith paratoi ar rai mathau o bridd cyn y bydd hadau’r gwirionedd yn magu gwreiddiau ac yn dechrau tyfu. Roedd efengylwyr y ganrif gyntaf yn llwyddo i blannu hadau ym mhob math o bridd, ac roedd hynny yn gwneud iddyn nhw lawenhau. (Act. 13:48, 52) Gallwn ni fod yr un mor llwyddiannus drwy addasu’r ffordd rydyn ni’n cyflwyno’r neges.