Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofah Heddiw?
1. (a) Ar ba ddyddiad y byddwn ni’n dechrau astudio Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofah Heddiw? (b) Sut bydd hyn yn ein helpu ni?
1 Gan ddechrau’r wythnos yn cychwyn Chwefror 10, 2014 bydd y llyfryn Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofah Heddiw? yn cael ei astudio yn Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa. Mae’r llyfryn newydd hwn a gafodd ei gyhoeddi yn ystod y Gynhadledd Ranbarth “Safeguard Your Heart!” wedi ei ddylunio i gyfeirio pobl sy’n astudio’r Beibl at y gyfundrefn. Bydd astudio’r cyhoeddiad hwn yn gwneud dau beth. Yn gyntaf, fe fydd yn ein helpu ni i ddatblygu ein gwerthfawrogiad o fod yn rhan o gyfundrefn Jehofah. Yn ail, fe fydd yn ein helpu ni i ddod yn gyfarwydd â’r llyfryn ar gyfer y weinidogaeth.—Salm 48:12, 13.
2. Sut bydd y llyfryn yn cael ei astudio yn y gynulleidfa?
2 Trefn yr Astudiaeth: Bydd angen i’r arweinydd rhannu’r amser ar gyfer pob gwers fel bod tua’r unfaint o amser yn cael ei dreulio ar bob un. Dylai gyflwyno pob un o’r 28 gwers drwy ddarllen y teitl sydd hefyd yn gwestiwn. Wedyn, dylai wahodd y darllenwr i ddarllen y paragraff cyntaf. Nesaf, bydd yr arweinydd yn gofyn i’r gynulleidfa ateb y cwestiwn y mae wedi ei baratoi o flaen llaw ynglŷn â’r cyflwyniad. Ar ôl hynny, bydd pob rhan sy’n cychwyn gyda brawddeg mewn print trwm yn cael ei thrafod ar wahân. Ar ôl i’r rhan gael ei darllen, dylai’r arweinydd ofyn am sylwadau sy’n trafod sut mae’r rhan yn ateb teitl y wers. Mae’r llyfryn yn cynnwys nifer mawr o luniau i’w trafod. Fel mae amser yn caniatáu dylai adnodau allweddol gael eu trafod. Bydd yr arweinydd yn adolygu’r wers drwy ofyn y cwestiynau ar waelod y dudalen cyn symud ymlaen at y wers nesaf. Ar ôl i rywun ddarllen y blwch “I Ddysgu Mwy,” bydd yn gofyn i’r gynulleidfa sut bydd yr awgrymiad yn helpu myfyrwyr y Beibl petawn nhw yn ei roi ar waith. Os oes digon o amser, gall yr arweinydd ddefnyddio teitlau’r gwersi i’w hadolygu. Cofiwch, nid oes rhaid astudio’r llyfryn yn yr un modd gyda myfyrwyr y Beibl.
3. Sut gallwn ni fanteisio ar astudio’r llyfryn hwn?
3 Er mwyn cael y gorau allan o’r astudiaeth, paratowch yn dda o flaen llaw. Ceisiwch gyfrannu drwy roi eich sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, ystyriwch sut bydd yr wybodaeth yn helpu myfyrwyr y Beibl. Bydd y llyfryn newydd hwn yn ein cynorthwyo ni i helpu eraill i wneud ewyllys Duw ac yn rhoi’r cyfle iddyn nhw gael bywyd tragwyddol hefyd.—1 Ioan 2:17.