Defnyddio’r Llyfryn Newyddion Da i Ddysgu Eraill
1. Sut mae’r llyfryn Newyddion Da wedi ei ddylunio?
1 Fel y pwysleisiwyd yn Ein Gweinidogaeth mis Gorffennaf, un o’n hadnoddau pwysig ar gyfer dysgu eraill yw’r llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! Er mwyn i’r deiliad fwynhau dysgu yn syth o’r Beibl, nid yw’r llyfryn yn dyfynnu’r adnodau y cyfeirir atyn nhw yn y paragraffau. Mae llawer o’n cyhoeddiadau astudio wedi eu hysgrifennu fel y bydd pobl yn gallu dysgu ar eu pennau eu hunain, ond mae’r llyfryn hwn wedi ei ddylunio ar gyfer cael ei drafod gyda’r sawl sy’n hyfforddi. Felly, wrth gynnig y llyfryn, dylen ni geisio dangos i’r deiliad ei bod hi’n brofiad cyffrous i ddysgu’r newyddion da o’r Beibl.—Math. 13:44.
2. Sut y gallwn ni ddefnyddio’r llyfryn Newyddion Da ar yr alwad gyntaf?
2 Ar yr Alwad Gyntaf: Mae’n bosibl dweud: “Dw i’n galw heddiw oherwydd bod llawer o bobl yn pryderu am ddyfodol y byd. Ydych chi’n meddwl bydd y sefyllfa’n gwella? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Beibl yn cynnwys newyddion da sy’n rhoi gobaith inni. Dyma rai o’r cwestiynau mae’r Beibl yn eu hateb.” Rhowch gopi o’r llyfryn iddo, a gofynnwch iddo ddewis cwestiwn sydd ar y tu cefn. Yna, trowch at baragraff cyntaf y wers honno, a dangoswch sut rydyn ni’n defnyddio’r llyfryn i astudio. Opsiwn arall yw gofyn i’r deiliad gwestiwn diddorol sy’n seiliedig ar wers rydych chi wedi ei dewis, a dangos iddo sut gall y llyfryn ei helpu i ddarganfod yr ateb o’r Beibl. Os oes gan y wers honno fideo cyfatebol ar jw.org, gall cyhoeddwyr ddewis ei chwarae yn ystod y cyflwyniad.
3. Esboniwch sut i ddefnyddio’r llyfryn Newyddion Da i gynnal astudiaeth Feiblaidd.
3 Sut i Gynnal yr Astudiaeth: (1) Darllenwch y cwestiwn mewn print trwm i helpu’r deiliad i ganolbwyntio ar y prif bwynt. (2) Darllenwch y paragraff sy’n dilyn. (3) Darllenwch yr adnodau sydd mewn italig, a defnyddiwch gwestiynau doeth i helpu’r deiliad i weld sut mae’r adnodau yn ateb y cwestiwn mewn print trwm. (4) Os oes yna baragraff arall o dan yr un cwestiwn, ewch trwy gamau 2 a 3 eto. Os oes fideo ynghlwm wrth y cwestiwn ac nid ydych eto wedi ei chwarae ar gyfer y deiliad, gwnewch hynny ryw ben yn ystod y drafodaeth. (5) Wedyn, gofynnwch i’r deiliad ateb y cwestiwn er mwyn sicrhau ei fod yn deall.
4. Beth fydd yn ein helpu i ddefnyddio’r adnodd hwn yn grefftus?
4 Gwnewch ymdrech i ddod yn gyfarwydd â’r adnodd gwerthfawr hwn. Ceisiwch ei ddefnyddio pa bryd bynnag y mae’n addas. Cyn pob astudiaeth, meddyliwch am eich myfyriwr a’r ffordd orau o resymu ag ef gan ddefnyddio’r adnodau yn y wers. (Diar. 15:28; Act. 17:2, 3) Wrth i’ch profiad a’ch sgiliau gynyddu, efallai y bydd y llyfryn hwn yn dod yn un o’ch hoff adnoddau i ddysgu eraill am y gwir!