Sut i Ddefnyddio Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofah Heddiw?
Llyfryn Newydd i Gyfeirio Myfyrwyr y Beibl at y Gyfundrefn
1. Beth yw’r tri rheswm y mae’r llyfryn Ewyllys Jehofah wedi cael ei gyhoeddi?
1 A ydych chi wedi defnyddio’r llyfryn newydd Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofah Heddiw? Bwriad y llyfryn yw (1) helpu myfyrwyr i ddod yn gyfarwydd â Thystion Jehofah, (2) helpu nhw i ddysgu am ein gweithgareddau, a (3) dangos sut mae’r gyfundrefn yn gweithio. Mae gan y llyfryn Ewyllys Jehofah un wers ar bob tudalen a ellir ei thrafod am bump neu ddeng munud ar ddiwedd pob astudiaeth.
2. Beth yw cynllun a nodweddion y llyfryn hwn?
2 Cynllun y Llyfryn: Mae’r llyfryn wedi ei drefnu mewn tair rhan. Mae pob rhan yn trafod rhywbeth gwahanol am gyfundrefn Jehofah, fel y gwelwch uchod. Mae teitl pob un o’r 28 pennod wedi ei osod fel cwestiwn, ac mae’r isdeitlau mewn print trwm yn ateb y cwestiwn. Fe welwch chi luniau o dros 50 o wledydd, wedi eu labelu, i ddangos bod ein gwaith yn mynd ymlaen trwy’r byd i gyd. Mae gan nifer o’r gwersi awgrymiadau i’ch myfyriwr eu dilyn yn y blychau “I Ddysgu Mwy.”
3. Sut medrwn ni ddefnyddio’r llyfryn Ewyllys Jehofah?
3 Sut i’w Ddefnyddio: Yn gyntaf, tynnwch sylw at y cwestiwn yn y teitl. Yna, wrth ichi ddarllen y wers gyda’ch gilydd, trafodwch yr isdeitlau. Gallwch ddarllen y wers gyfan, neu ei darllen a’i thrafod fesul rhan. Dewiswch yn ofalus pa adnodau i’w darllen. Peidiwch ag anghofio trafod y lluniau a’r blychau “I Ddysgu Mwy.” Ar y cyfan, dylai’r gwersi gael eu trafod yn ôl eu trefn. Ond, gallwch fynd ymlaen at bennod sy’n trafod rhywbeth perthnasol. Er enghraifft, os yw cynulliad neu gynhadledd yn nesáu, fe fedrwch chi neidio at wers 11.
4. Pam rydych chi’n hapus i gael y llyfryn newydd?
4 Trwy astudio’r Beibl gyda rhywun, rydyn ni’n ei helpu i ddod i adnabod ein Tad nefol. Ond, yn ogystal â hynny mae’n rhaid inni ei ddysgu ef am gyfundrefn Jehofah. (Diar. 6:20) Felly, rydyn ni’n falch bod y llyfryn newydd hwn ar gael i’n helpu ni i wneud hynny!