LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 2/14 t. 2
  • Gwnewch Dymor y Goffadwriaeth yn Un Llawen!

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwnewch Dymor y Goffadwriaeth yn Un Llawen!
  • Ein Gweinidogaeth—2014
  • Erthyglau Tebyg
  • Paratowch Nawr ar Gyfer Ehangu Eich Gweinidogaeth
    Ein Gweinidogaeth—2012
  • A Fedrwch Chi Arloesi’n Gynorthwyol?
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • Mwy o Gyfle i Glodfori Jehofah
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • Gosoda Amcanion ar Gyfer Adeg y Goffadwriaeth
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
Gweld Mwy
Ein Gweinidogaeth—2014
km 2/14 t. 2

Gwnewch Dymor y Goffadwriaeth yn Un Llawen!

1. Beth yw un ffordd gallwn ni fod yn llawen yn ystod tymor y Goffadwriaeth?

1 Ydych chi eisiau teimlo mwy o lawenydd yn ystod Mawrth, Ebrill, a Mai? Un ffordd o gyflawni hyn yw drwy ehangu eich gweinidogaeth, ac os yw’n bosibl drwy arloesi’n gynorthwyol. Sut bydd hyn yn dod â llawenydd?

2. Sut bydd ehangu ein gweinidogaeth yn ein helpu ni i gael mwy o lawenydd?

2 Cael Mwy o Lawenydd: Fe wnaeth Jehofah ein creu ni gyda’r gallu i gael pleser drwy ei addoli ef, wrth inni fodloni ein hangen ysbrydol naturiol. (Math. 5:3) Hefyd, rydyn ni wedi cael ein dylunio fel ein bod ni’n cael mwynhad o roi i eraill. (Act. 20:35) Mae’r weinidogaeth yn caniatáu inni wneud y ddau—addoli Duw a helpu eraill. Felly, mae’n rhesymol i feddwl, mwya’ yn y byd rydyn ni’n ei wneud yn y weinidogaeth, yr hapusach y byddwn ni. Hefyd, drwy bregethu mwy byddwn yn hogi ein sgiliau. Wrth inni wella ein sgiliau, fe fyddwn ni’n meithrin hyder, ac yn tawelu ein pryderon. Bydd gennyn ni fwy o gyfleoedd i roi tystiolaeth ac i ddechrau astudiaethau Beiblaidd. Mae hyn i gyd yn gwneud ein gweinidogaeth yn bleserus.

3. Pam mae Mawrth ac Ebrill yn fisoedd arbennig o dda i arloesi’n gynorthwyol?

3 Mae Mawrth ac Ebrill yn fisoedd arbennig o dda i arloesi’n gynorthwyol oherwydd gallwn ddewis gwneud naill ai 30 neu 50 awr yn y weinidogaeth. Hefyd, gan ddechrau ar ddydd Sadwrn, Mawrth 22, hyd at y Goffadwriaeth ar ddydd Llun, Ebrill 14, byddwn yn cymryd rhan mewn ymgyrch i wahodd eraill i’r Goffadwriaeth. Bydd y cynulleidfaoedd yn llawn cyffro wrth iddyn nhw gydweithio i alw ar gymaint o bobl ag sy’n bosibl yn yr amser a bennwyd.—Seff. 3:9.

4. Os ydyn ni’n dymuno arloesi, beth dylen ni ei wneud?

4 Paratoi Nawr: Os nad ydych wedi gwneud eisoes, cymerwch amser i edrych ar eich amserlen a gweld pa newidiadau gallwch eu gwneud i ehangu eich gweinidogaeth yn ystod un mis neu fwy. Gweddïwch amdani. (Iago 1:5) Siaradwch amdani â’ch ffrindiau neu eraill yn y gynulleidfa. (Diar. 15:22) Efallai gwnewch chi ddarganfod, er gwaethaf afiechyd neu amserlen lawn, y gallwch chi flasu’r llawenydd sy’n dod o arloesi’n gynorthwyol hefyd.

5. Beth fydd canlyniad ehangu ein gweinidogaeth yn ystod tymor y Goffadwriaeth?

5 Mae Jehofah yn dymuno i’w weision fod yn llawen. (Salm 32:11) Drwy weithredu i ehangu ein gweinidogaeth yn ystod tymor y Goffadwriaeth, nid y ni yn unig fydd yn llawen, ond ein Tad Nefol hefyd.—Diar. 23:24; 27:11.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu