Cyflwyniadau Enghreifftiol
Sut i Wahodd Pobl i’r Goffadwriaeth
“Rydyn ni’n dosbarthu gwahoddiadau i achlysur pwysig iawn. Ar Ebrill 14, bydd miliynau o bobl yn mynd i gyfarfodydd ar draws y byd i goffáu marwolaeth Iesu Grist ac i wrando ar anerchiad Beiblaidd sy’n egluro sut mae ei farwolaeth ef o fudd i ni. Mae’r gwahoddiad yn dangos amser a chyfeiriad ein cyfarfod lleol. Mae mynediad am ddim.”
The Watchtower Ebrill 1
“Rydyn ni’n galw i drafod rhywbeth sy’n gyffredin i bawb. Beth bynnag yw eu crefydd, mae’r rhan fwyaf o bobl wedi gweddïo ryw dro neu’i gilydd. Ydych chi’n meddwl bod Duw yn ateb ein gweddïau, neu ydyn nhw’n ffordd o wneud inni deimlo’n well am ein problemau? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am weddi. [Darllenwch 1 Ioan 5:14.] Mae’r cylchgrawn yma yn egluro sut mae gweddi yn ein helpu ni.”
Awake! Ebrill
“Rydyn ni yma i gynnig help ar gyfer problem sy’n dod yn fwy cyffredin. Mae rhai wedi eu llethu gymaint gan broblemau nes bod nhw eisiau eu lladd eu hunain. Pan fo rhywun yn teimlo mor ddrwg â hynny, ydych chi’n meddwl eu bod nhw wir eisiau marw, neu ydyn nhw’n chwilio am ryddhad o’u problemau? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar addewid yn y Beibl sydd wedi helpu llawer o bobl i gadw’n bositif. [Darllenwch Datguddiad 21:3, 4.] Mae’r cylchgrawn yma yn egluro tri rheswm da dros ddyfalbarhau er gwaethaf problemau.”