Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Ymateb i Rywun Dig
Pam Mae’n Bwysig? Mae llawer rydyn ni’n eu cyfarfod yn y weinidogaeth yn gyfeillgar. Ond, dywedodd Iesu y byddai rhai yn ein casáu. (Ioan 17:14) Felly, dydy hi ddim yn syndod ein bod ni’n cwrdd â rhywun dig o bryd i’w gilydd. Pan ddigwydda hynny, rydyn ni eisiau ymateb mewn ffordd sy’n mynd i blesio’r un rydyn ni’n ei gynrychioli, Jehofa. (Rhuf. 12:17-21; 1 Pedr 3:15) Drwy wneud hynny, mae’n debyg na fydd y sefyllfa’n gwaethygu. Hefyd, bydd hyn yn dystiolaeth dda i’r deiliad ac i unrhyw un arall sy’n gwylio, gan eu gwneud nhw’n fwy tebygol o wrando y tro nesaf y mae Tystion Jehofa yn galw.—2 Cor. 6:3.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Ymarferwch gyda’ch teulu fel rhan o’ch addoliad teuluol.
Ar ôl gadael deiliad sy’n ddig, trafodwch gyda’ch partner sut y gallech chi ymateb yn well y tro nesaf.