Cân 9 (26)
Ymateb i Ofynion Duw
1. Ufudd a ffyddlon fôm i Dduw
Cadw uniondeb pwysig yw.
Gogoniant mawr, cyhoeddi wnawn
Enw Jehofah, Iôn uniawn.
Fel Tystion, â diddanwch down;
I’r rhai mewn galar, gobaith rown.
Derbyn y nod wna’r addfwyn rai,
Amddiffyn dwyfol gânt fwynhau.
2. Llygad sy’n syml, cadw wna
Obaith yn gryf am deg wynfa.
Profwn ein holl gymhellion cudd;
Os pur, ein bywyd bythol fydd.
Os tystio wnawn yn lew a thaer,
Clyw lawer eiriau’r dwyfol Air.
Rhodiwn ar lwybyr sanctaidd glân,
Gobaith y Deyrnas fydd ein rhan.
3. Cymorth i’r fyd-frawdoliaeth rown;
Help i’n cymdogion paratown.
Preswylio wnawn mewn undod gwiw
Gyda ffyddloniaid dynolryw.
Llwyr wasanaethu Duw yw’n cais;
Molwn Jehofah yn barhaus.
Yn ddifrycheulyd cadwn ni;
Dyrchafwn fyth ei enw cu.