Cân 65 (152)
Gwerthfawrogi Tosturiaethau Duw
1. Pob gwybodaeth a doethineb
Eiddo ŷnt i’n Harglwydd Dduw!
Anchwiliadwy yw ei farnau!
Y Goruchaf, bythol yw.
Pwy a fu’n gynghorwr iddo,
Pwy adnabu’i feddwl ef,
Ac i bwy mae o’n ddyledus,
Duw anfeidrol yn y nef?
2. Am dosturi mawr Jehofah
Datgan diolch wnawn yn llon,
A chysegrwn nerth ein hiechyd
I Greawdwr daear gron.
Ein holl einioes nawr offrymwn.
Cadw’n deyrngar wnawn bob dydd.
Â’n holl reswm a’n holl allu,
Mawr ein hymdrech beunydd fydd.
3. Adnewyddwn ein holl feddwl,
Cydymffurfiwn â glân Air.
Ein trawsffurfio wna’r gwirionedd;
Byddwn ffyddlon, byddwn daer.
Taer fo’n gweddi am fendithion,
Gwasanaethwn heb lesgáu.
Trwy weithredoedd glân cariadus
Heddwch bythol cawn fwynhau.