Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Hydref
“Rydyn ni’n gofyn cwestiwn i bobl heddiw; oes gan unrhyw lywodraeth y gallu i gael gwared ar yr holl broblemau yn y byd, fel trais ac annhegwch?” Arhoswch am ymateb. Cewch atgoffa’r deiliad am Weddi’r Arglwydd lle dysgodd Iesu ei ddisgyblion i weddïo am Deyrnas Dduw. Gofynnwch: “Beth mae Teyrnas Dduw yn ei gyflawni?” ac yna dangoswch wers 7 yn y llyfryn Newyddion Da. Darllenwch y paragraffau o dan gwestiwn 5 ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y llyfryn, a threfnwch i alw’n ôl i drafod cwestiwn cyntaf y wers.
The Watchtower Hydref 1
“Rydyn ni’n galw heibio heddiw i sôn am weddi rydyn ni i gyd wedi cael ein dysgu yn Mathew 6:9, 10. [Darllenwch.] Oes rhywun erioed wedi egluro i chi beth yw Teyrnas Dduw a pham wnaeth Iesu bwysleisio’r Deyrnas gymaint? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r cylchgrawn yma’n dangos beth y mae’r Beibl yn ei ddweud amdani, ynghyd â’r buddion fydd yn dod trwy’r Deyrnas.”
Awake! Hydref
“Beth rydych chi’n ei feddwl am y cwestiwn yma? [Dangoswch glawr y cylchgrawn.] Ydych chi’n meddwl bod rhaid inni fod yn gyfoethog er mwyn bod yn llwyddiannus? [Arhoswch am ymateb.] Mae Luc 12:15 yn trafod cael agwedd gytbwys tuag at gyfoeth. [Darllenwch.] Felly, yn ôl yr adnod hon mae’n dangos bod llwyddiant o fewn cyrraedd pawb. Mae’r cylchgrawn yma yn esbonio ymhellach.”