Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Hydref
“Rwy’n siŵr eich bod chi’n cytuno bod bywyd yn rhy fyr. Ydych chi’n meddwl y byddwn ni’n gallu dileu afiechydon yn y dyfodol, ac ymestyn hyd ein bywydau? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth sy’n cael ei ddweud yma.” Rhowch gopi o Watchtower Hydref 1 i’r deiliad, trafodwch y deunydd o dan yr is-bennawd cyntaf ar dudalen 16 ynghyd â’r adnod. Cynigiwch y cylchgronau, a threfnwch i alw’n ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Hydref 1
“Mae llawer o bobl yn poeni bod arferion llwgr mewn busnes a gwleidyddiaeth yn cynyddu. Ydych chi’n meddwl bod hi’n bosibl i ddatrys y broblem hon? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth fydd Iesu’n ei wneud dros y rhai sydd wedi dioddef oherwydd arferion llwgr fel hyn. [Darllenwch Salm 72:12-14.] Mae’r cylchgrawn hwn yn dangos sut y bydd pethau’n newid er gwell yn y dyfodol.”
Awake! Hydref
“Mae rhan fwyaf o rieni eisiau i’w plant gael addysg dda. Ydych chi’n meddwl bod pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yn barod i wynebu problemau bywyd? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud ynglŷn â phwysigrwydd dealltwriaeth a doethineb. [Darllenwch Pregethwr 7:12.] Mae’r cylchgrawn hwn yn awgrymu pum ffordd ymarferol i helpu plant i lwyddo yn yr ysgol.”