Gwnewch Dymor y Goffadwriaeth yn Un Llawen!
1. Beth yw un ffordd gallwn ni fod yn llawen yn ystod tymor y Goffadwriaeth?
1 Ydych chi eisiau teimlo mwy o lawenydd yn ystod Mawrth, Ebrill, a Mai? Un ffordd o gyflawni hyn yw drwy ehangu eich gweinidogaeth, ac os yw’n bosibl drwy arloesi’n gynorthwyol. Sut bydd hyn yn dod â llawenydd?
2. Sut bydd ehangu ein gweinidogaeth yn ein helpu ni i gael mwy o lawenydd?
2 Cael Mwy o Lawenydd: Fe wnaeth Jehofah ein creu ni gyda’r gallu i gael pleser drwy ei addoli ef, wrth inni fodloni ein hangen ysbrydol naturiol. (Math. 5:3) Hefyd, rydyn ni wedi cael ein dylunio fel ein bod ni’n cael mwynhad o roi i eraill. (Act. 20:35) Mae’r weinidogaeth yn caniatáu inni wneud y ddau—addoli Duw a helpu eraill. Felly, mae’n rhesymol i feddwl, mwya’ yn y byd rydyn ni’n ei wneud yn y weinidogaeth, yr hapusach y byddwn ni. Hefyd, drwy bregethu mwy byddwn yn hogi ein sgiliau. Wrth inni wella ein sgiliau, fe fyddwn ni’n meithrin hyder, ac yn tawelu ein pryderon. Bydd gennyn ni fwy o gyfleoedd i roi tystiolaeth ac i ddechrau astudiaethau Beiblaidd. Mae hyn i gyd yn gwneud ein gweinidogaeth yn bleserus.
3. Pam mae Mawrth ac Ebrill yn fisoedd arbennig o dda i arloesi’n gynorthwyol?
3 Mae Mawrth ac Ebrill yn fisoedd arbennig o dda i arloesi’n gynorthwyol oherwydd gallwn ddewis gwneud naill ai 30 neu 50 awr yn y weinidogaeth. Hefyd, gan ddechrau ar ddydd Sadwrn, Mawrth 22, hyd at y Goffadwriaeth ar ddydd Llun, Ebrill 14, byddwn yn cymryd rhan mewn ymgyrch i wahodd eraill i’r Goffadwriaeth. Bydd y cynulleidfaoedd yn llawn cyffro wrth iddyn nhw gydweithio i alw ar gymaint o bobl ag sy’n bosibl yn yr amser a bennwyd.—Seff. 3:9.
4. Os ydyn ni’n dymuno arloesi, beth dylen ni ei wneud?
4 Paratoi Nawr: Os nad ydych wedi gwneud eisoes, cymerwch amser i edrych ar eich amserlen a gweld pa newidiadau gallwch eu gwneud i ehangu eich gweinidogaeth yn ystod un mis neu fwy. Gweddïwch amdani. (Iago 1:5) Siaradwch amdani â’ch ffrindiau neu eraill yn y gynulleidfa. (Diar. 15:22) Efallai gwnewch chi ddarganfod, er gwaethaf afiechyd neu amserlen lawn, y gallwch chi flasu’r llawenydd sy’n dod o arloesi’n gynorthwyol hefyd.
5. Beth fydd canlyniad ehangu ein gweinidogaeth yn ystod tymor y Goffadwriaeth?
5 Mae Jehofah yn dymuno i’w weision fod yn llawen. (Salm 32:11) Drwy weithredu i ehangu ein gweinidogaeth yn ystod tymor y Goffadwriaeth, nid y ni yn unig fydd yn llawen, ond ein Tad Nefol hefyd.—Diar. 23:24; 27:11.