LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 4/13 tt. 3-6
  • Ymddygiad Sy’n Dod â Chlod i Dduw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ymddygiad Sy’n Dod â Chlod i Dduw
  • Ein Gweinidogaeth—2013
  • Erthyglau Tebyg
  • Cadw Ymddygiad Da Ymhlith y Cenhedloedd
    Ein Gweinidogaeth—2014
  • Pwyntiau i’w Cofio ar Gyfer y Gynhadledd
    Ein Gweinidogaeth—2015
  • Ein Cynadleddau Rhanbarth—Tystiolaeth Rymus i’r Gwir
    Ein Gweinidogaeth—2012
Ein Gweinidogaeth—2013
km 4/13 tt. 3-6

Ymddygiad Sy’n Dod â Chlod i Dduw

1. Pam mae Tystion Jehofah yn denu sylw wrth fynychu cynadleddau rhanbarth?

1 Mae’n tynnu sylw pobl pan rydyn ni’n mynychu cynadleddau rhanbarth. Mewn llawer o lefydd ble bu’r cynadleddau, mae’r wasg yn cyhoeddi ein presenoldeb. Yn aml mae’r bobl leol yn gweld nifer mawr o’r cynadleddwyr, yn gwisgo bathodynnau adnabod, yn llenwi’r gwestai a bwytai. Bydd yr atgofion canlynol yn ein helpu ni i ddod â chlod i Dduw drwy ein hymddygiad da tra rydyn ni’n mynychu’r gynhadledd.—1 Pedr 2:12.

2. Sut gallwn ni ddod â chlod i Dduw yn ninas y gynhadledd?

2 Gwisgo’n Weddus: Mae ein dillad gweddus yn tystiolaethu amdanon ni tra rydyn ni’n mynychu’r gynhadledd. Ond gall ein gwisg ar adegau eraill roi argraff dda i bobl hefyd, er enghraifft, tra rydyn ni’n siopa neu wrth inni fynd allan am bryd o fwyd. Er nad oes angen gwisgo dillad ffurfiol o hyd, mae’n bwysig ein bod ni’n gwisgo’n barchus, yn weddus, ac nid yn rhy anffurfiol. Dylai’r gwahaniaeth rhyngon ni ac eraill bod yn amlwg. (Rhuf. 12:2) Yn ychwanegol i hyn, bydd gwisgo ein bathodynnau yn hysbysebu’r gynhadledd, yn helpu brodyr a chwiorydd i’n hadnabod ni, ac yn rhoi tystiolaeth i eraill.

3. Sut y gallwn ni ddangos amynedd a chwrteisi?

3 Amynedd a Chwrteisi: Mewn adeg pan yw pobl yn hunangar ac yn anniolchgar, mae’n bleser i eraill fel staff yn y bwytai a’r gwestai weld ein hamynedd a’n cwrteisi. (2 Tim. 3:1-5) Pan ydyn ni’n cadw seddi neu’n aros mewn llinell i dderbyn ein cyhoeddiadau newydd, dylen ni geisio nid ein ‘lles ein hun ond lles ein cymydog.’ (1 Cor. 10:23, 24) Ar ôl mynychu ei gynhadledd gyntaf, dywedodd un ymwelwr, “Dydw i ddim yn cofio unrhyw un o’r anerchiadau, ond fe wnaeth ymddygiad y Tystion argraff fawr arnaf.”

4. Petai’n bosibl, pam y dylen ni ystyried gwirfoddoli?

4 Hapus i Wirfoddoli: Un nodwedd gwir Gristnogion yw ysbryd o wirfoddoli. (2 Cor. 9:7) A allwch chi wirfoddoli i helpu yn y gynhadledd? Cyn un gynhadledd, roedd tua 600 o frodyr a chwiorydd yn gwirfoddoli i lanhau’r safle. Dywedodd y staff: “Hwn yw’r peth mwyaf anhygoel gwelwn ni erioed! Mae’n anodd credu bod yr holl bobl yma’n wirfoddolwyr.” Edrychwn ymlaen yn awyddus at fynychu’r gynhadledd yn 2013, nid yn unig i wrando ar Dduw ac i ddysgu ohono, ond hefyd i’w ogoneddu.

[Broliant ar dudalennau 3-6]

Cynhadledd Ranbarth 2013—Pwyntiau i’w Cofio

◼ Amserau’r Rhaglen: Bydd y drysau’n agor am 8:00 yb. Bydd y gerddoriaeth ragarweiniol yn dechrau am 9:20 yb bob dydd a dyna pryd y dylai pawb fynd i’w seddi er mwyn i’r rhaglen gychwyn mewn modd urddasol. Bydd y gân olaf a’r weddi yn dechrau am 4:50 yh ddydd Gwener a dydd Sadwrn, ac am 3:35 yh ar y Sul.

◼ Parcio: Yn amlach nag erioed rydyn ni’n defnyddio bysiau er mwyn datrys problemau parcio. Diolch yn fawr am gydweithio yn hyn o beth. Yn y cynadleddau lle rydyn ni’n rheoli’r trefniadau parcio, bydd parcio am ddim ar gael. Fel arfer, mae cyfyngiadau ar nifer y lleoedd parcio felly dylen ni rannu ceir lle mae hynny’n bosibl. Pan ddosbarthir y tocynnau parcio, bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i flaenoriaethu’r henoed neu’r anabl. Dylai Pwyllgor Gwasanaeth y Gynulleidfa dderbyn dim ond ceisiadau gan bobl sydd â gwir angen. Os yw eich amgylchiadau’n newid ac nid oes angen y tocyn arnoch chi, a wnewch chi ei anfon yn ôl fel y bydd rhywun arall yn medru ei ddefnyddio. Yn rhai o’r dinasoedd lle mae cynadleddau’n cael eu cynnal o dan do, dim ond meysydd parcio masnachol fydd ar gael.

◼ Cadw Seddi: Cewch gadw seddi dim ond ar gyfer y rhai sy’n teithio yn eich car, y rhai sy’n byw yn eich cartref, neu’r rhai sy’n astudio’r Beibl gyda chi ar hyn o bryd.—1 Cor. 13:5.

◼ Cinio: Dewch â’ch pecyn cinio fel na fyddwch chi’n gorfod gadael y gynhadledd amser cinio i nôl bwyd. Gellir dod â bocs oer bach a fydd yn ffitio o dan y sedd. Ni cheir dod â bocsys oer mawr na photeli gwydr i mewn i’r gynhadledd.

◼ Cyfraniadau: Gallwn ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r trefniadau drwy gyfrannu’n wirfoddol yn y gynhadledd at y gwaith byd-eang. Ceir mwy o fanylion ynglŷn â sut i wneud hyn yn y gynhadledd.

◼ Damweiniau ac Achosion Brys: Mae’r Gwasanaethau Brys yn derbyn llawer o alwadau ar ffonau symudol ynglŷn â materion dibwys. Os oes angen gofal meddygol brys ar rywun yn y gynhadledd, siaradwch ag un o’r gwasanaethyddion a bydd ef yn cysylltu’n syth â’r Adran Cymorth Cyntaf. Daw swyddog cymorth cyntaf cymwys i asesu’r sefyllfa ac i helpu. Os oes angen, bydd y swyddog cymorth cyntaf yn galw 999.

◼ Meddyginiaeth: Os oes angen meddyginiaeth bresgripsiwn arnoch chi, gwnewch yn siŵr bod cyflenwad digonol gyda chi, oherwydd ni fydd meddyginiaeth ar gael yn y gynhadledd. Ni ddylid rhoi chwistrelli clefyd y siwgr a nodwyddau yn y biniau ysbwriel cyffredin ar safle’r gynhadledd, nac yn y gwestai. Dylid cael gwared arnyn nhw’n ddiogel mewn modd addas ar gyfer gwastraff peryglus, fel yn y bocsys ar gyfer pethau miniog sydd i’w cael yn yr Adran Cymorth Cyntaf.

◼ Esgidiau: Bob blwyddyn, ceir nifer o anafiadau oherwydd esgidiau anaddas. Mae’n well dewis esgidiau cyfforddus sy’n addas ar gyfer cerdded yn ddiogel mewn meysydd parcio, ar risiau serth, ac mewn unrhyw fannau eraill a all fod yn beryglus.

◼ Rhai Sy’n Drwm Eu Clyw: Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu yn y stadiwm ar radio FM. Bydd Pwyllgor y Gynhadledd leol yn cyhoeddi tonfedd y rhaglen, os bydd y gwasanaeth hwn ar gael. I wrando ar y rhaglen, bydd angen radio bach FM sy’n gweithio â batri, ynghyd â chlustffonau. Er bod y gwasanaeth hwn ar gael, rydyn ni’n eich annog i beidio â gwrando yn eich car oni bai bod rheswm da dros wneud hynny. Gwell yw mwynhau cwmni pawb arall yn y stadiwm ac ymuno yn y canu a’r weddi.

◼ Persawr: Mae cynadleddau sy’n cael eu cynnal dan do yn dibynnu ar beiriannau i dymheru’r aer. Felly, peth caredig fyddai ystyried anghenion y rhai sydd â phroblemau anadlu neu alergedd cyn inni ddefnyddio persawr cryf.—1 Cor. 10:24.

◼ Ffurflenni Please Follow Up (S-43): Dylech ddefnyddio ffurflen Please Follow Up ar gyfer unrhyw un rydych chi wedi tystiolaethu wrtho yn ystod y gynhadledd ac a hoffai wybod mwy. Gellir rhoi’r ffurflenni i mewn yn yr Ystafell Lyfrau, neu eu rhoi i ysgrifennydd eich cynulleidfa ar ôl ichi fynd adref.

◼ Tai Bwyta: Bydd eich ymddygiad da mewn tai bwyta yn dod â chlod i enw Jehofah. Mae’n bwysig inni wisgo mewn modd sy’n addas i Gristnogion, ac i adael tip lle mae hynny’n arferol.

◼ Gwestai:

(1) Peidiwch â rhoi mwy o bobl yn yr ystafell na’r nifer a ganiateir.

(2) Os oes angen canslo ystafell, cysylltwch â’r gwesty.—Math. 5:37.

(3) Os ydych yn defnyddio cerdyn credyd neu gerdyn debyd i gofrestru, mae’n arferol i westai rewi digon o arian yn eich cyfrif i dalu am eich ystafell yn ogystal ag unrhyw gostau eraill sy’n gysylltiedig â’ch ymweliad. Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r arian hwnnw nes bod eich bil wedi ei dalu.

(4) Cymerwch droli pan ydych chi’n barod i symud eich bagiau ac ewch â hi’n syth yn ôl er mwyn i eraill ei defnyddio.

(5) Cofiwch roi tip bob dydd i’r rhai sy’n glanhau eich ystafell.

(6) Peidiwch â choginio mewn ystafelloedd lle na chaniateir coginio.

(7) Peidiwch â chamddefnyddio’r gwasanaeth brecwast neu unrhyw ddarpariaeth arall sydd ar gyfer pawb yn y gwesty.

(8) Dangoswch ffrwyth yr ysbryd bob amser wrth ymdrin â staff y gwesty. Maen nhw’n gofalu am nifer mawr o westeion ac yn ddiolchgar am ein caredigrwydd a’n hamynedd.

(9) Dylai rhieni gadw llygad ar eu plant drwy’r amser yn y gwesty, gan gynnwys yr ardal wrth y dderbynfa, y pwll nofio, yr ystafell ymarfer, ac yn y blaen.

(10) Os yw eich bil yn anghywir, dywedwch wrth y derbynnydd yn y gwesty a rhoi gwybod i’r Adran Lety yn y gynhadledd cyn gynted ag y bo modd.

(11) Os oes problem gyda’ch ystafell, rhowch wybod i’r Adran Lety cyn ichi adael y gynhadledd.

◼ Gwirfoddoli: Bydd arolygwyr yn recriwtio gwirfoddolwyr o flaen llaw. Ond gall unrhyw un sy’n penderfynu gwirfoddoli ar ôl cyrraedd y gynhadledd fynd i’r Adran Wirfoddoli. Gall plant dan 16 oed helpu os ydyn nhw’n gweithio gyda’u rhieni neu eu gwarcheidwad neu gydag oedolyn arall y mae eu rhieni neu eu gwarcheidwad yn ei gymeradwyo.

◼ Malta: Cynhelir y gynhadledd ranbarth 6-8 Medi, 2013. Er mwyn rheoli’r nifer sy’n mynychu’r gynhadledd ac er mwyn trefnu termau ffafriol yn y gwestai, dylai trefniadau gael eu gwneud drwy’r asiantaeth deithio benodedig yn unig. Mae’r manylion ar sut i wneud cais i’w cael yn y llythyr Tachwedd 30, 2012 a anfonwyd i bob cynulleidfa.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu