◼ Amserau’r Rhaglen: Bydd y drysau’n agor am 8:00 yb. Bydd y gerddoriaeth ragarweiniol yn dechrau am 9:20 yb bob dydd a dyna pryd y dylai pawb fynd i’w seddi er mwyn i’r rhaglen gychwyn mewn modd urddasol. Bydd y gân olaf a’r weddi yn dechrau am 4:55 yh ddydd Gwener a dydd Sadwrn, ac am 3:50 yh ar y Sul.
◼ Cynhadledd Ryngwladol: Bydd Twickenham, Llundain yn cynnal cynhadledd ryngwladol. Cofiwch fod y swyddfa gangen wedi ystyried faint o seddi, llefydd parcio, a gwestai fydd ar gael cyn gwahodd cynadleddwyr o wledydd tramor a chynulleidfaoedd penodol. Petai cyhoeddwyr ychwanegol yn mynychu’r gynhadledd ryngwladol yn Llundain heb wahoddiad, byddai’r maes yn orlawn. Ar gyfer y prif anerchiadau, bydd cyswllt fideo rhwng y gynhadledd ryngwladol a’r cynadleddau sy’n cael eu cynnal ar yr un penwythnos.
◼ Parcio: Yn amlach nag erioed rydyn ni’n defnyddio bysiau er mwyn datrys problemau parcio. (Os yw’n berthnasol, bydd yr henuriaid yn rhoi gwybodaeth bellach ynglŷn â bysiau.) Diolch yn fawr am eich cydweithrediad. Yn y cynadleddau lle rydyn ni’n rheoli’r trefniadau parcio, bydd parcio ar gael am ddim drwy’r cynulleidfaoedd. Fel arfer, mae cyfyngiadau ar nifer y llefydd parcio, felly dylen ni rannu ceir lle mae hynny’n bosibl. Pan ddosbarthir y tocynnau parcio, bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i flaenoriaethu’r henoed neu’r anabl. Dylai Pwyllgor Gwasanaeth y Gynulleidfa dderbyn dim ond ceisiadau gan bobl sydd â gwir angen. Os yw eich amgylchiadau’n newid ac nid oes angen y tocyn arnoch chi, wnewch chi ei anfon yn ôl fel y bydd rhywun arall yn medru ei ddefnyddio? Yn rhai o’r dinasoedd lle mae cynadleddau’n cael eu cynnal o dan do, dim ond meysydd parcio masnachol fydd ar gael.
◼ Cadw Seddi: Wrth i ddrysau’r safle agor bob bore, peidiwch â rhuthro i’r seddi fel petai chi’n cystadlu yn erbyn eich brodyr a chwiorydd. Bydd ysbryd o hunan-aberth a chariad yn ein hysgogi ni i ymddwyn fel gwir Gristnogion, a bydd hynny’n dod â chlod i Dduw. (Ioan 13:34, 35; 1 Cor. 13:4, 5; 1 Pedr 2:12) Cewch gadw seddi ar gyfer y rhai sy’n teithio yn eich car, y rhai sy’n byw yn eich cartref, neu’r rhai sy’n astudio’r Beibl gyda chi ar hyn o bryd. Mae seddi arbennig ar gael i’r henoed a phobl anabl. Gan fod lle yn brin, gall un neu ddau o gynorthwywyr eistedd gyda’r rhai sydd angen help arnyn nhw.
◼ Cinio: Dewch â’ch pecyn cinio fel na fyddwch chi’n gorfod gadael y gynhadledd amser cinio i nôl bwyd. Gellir dod â bocs oer bach a fydd yn ffitio o dan y sedd. Ni cheir dod â bocsys oer mawr na photeli gwydr i mewn i’r gynhadledd.
◼ Cyfraniadau: Gallwn ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r gynhadledd drwy gyfrannu’n wirfoddol at y gwaith byd-eang. Ym Mhrydain, gellir gwneud siec yn daladwy i “International Bible Students Association,” ac yn Iwerddon yn daladwy i “Watch Tower Bible and Tract Society of Ireland.” Gellir hefyd ddefnyddio cardiau debyd neu gredyd.
◼ Meddyginiaeth: Os oes angen meddyginiaeth bresgripsiwn arnoch chi, gwnewch yn siŵr fod cyflenwad digonol gyda chi, oherwydd ni fydd meddyginiaeth ar gael yn y gynhadledd. Ni ddylid rhoi chwistrelli clefyd y siwgr a nodwyddau yn y biniau ysbwriel cyffredin ar safle’r gynhadledd, nac yn y gwestai. Dylid cael gwared arnyn nhw’n ddiogel mewn modd addas ar gyfer gwastraff peryglus, fel yn y bocsys ar gyfer pethau miniog sydd i’w cael yn yr Adran Cymorth Cyntaf.
◼ Iechyd a Diogelwch: Ceisiwch atal damweiniau rhag digwydd. Er enghraifft, bob blwyddyn mae pobl yn brifo’u hunain o ganlyniad baglu neu syrthio, yn aml oherwydd gwisgo esgidiau gyda sodlau uchel. Mae’n ddoeth i wisgo esgidiau cyfforddus sy’n addas ar gyfer cerdded mewn meysydd parcio, ar risiau serth, ac mewn unrhyw fannau eraill a all fod yn beryglus.
◼ Rhai Sy’n Drwm Eu Clyw: Os yw’n bosibl, bydd y rhaglen yn cael ei darlledu yn y stadiwm ar radio FM. Er mwyn ei chlywed bydd angen radio bach FM sy’n gweithio â batri, ynghyd â chlustffonau.
◼ Persawr: Mae cynadleddau sy’n cael eu cynnal dan do yn dibynnu ar beiriannau i dymheru’r aer. Felly, peth caredig fyddai ystyried anghenion y rhai sydd â phroblemau anadlu neu alergedd cyn inni ddefnyddio persawr cryf.—1 Cor. 10:24.
◼ Ffurflenni Please Follow Up (S-43): Dylech ddefnyddio ffurflen Please Follow Up ar gyfer unrhyw un rydych chi wedi tystiolaethu wrtho yn ystod y gynhadledd. Gellir rhoi’r ffurflenni i’r Adran Wybodaeth, neu eu rhoi i ysgrifennydd eich cynulleidfa ar ôl ichi fynd adref.
◼ Tai Bwyta: Bydd eich ymddygiad da mewn tai bwyta yn dod â chlod i enw Jehofah. Mae’n bwysig inni wisgo mewn modd sy’n addas i Gristnogion, ac i adael tip lle mae hynny’n arferol.
◼ Gwestai:
Peidiwch â neilltuo mwy o ystafelloedd nag yr ydych yn bwriadu defnyddio, na rhoi mwy o bobl yn yr ystafell na’r nifer a ganiateir.
Heblaw am sefyllfa argyfwng, peidiwch â chanslo eich ystafell. Os oes angen canslo, cysylltwch â’r gwesty fel bod rhywun arall yn gallu defnyddio’r lle. (Math. 5:37) Pe bai angen canslo eich ystafell, darllenwch bolisi canslo y gwesty.
Wrth ichi ragarchebu gyda’r gwesty, nodwch, bydd rhaid defnyddio cerdyn credyd neu ddebyd.
Cymerwch droli pan ydych chi’n barod i symud eich bagiau ac ewch â hi’n syth yn ôl er mwyn i eraill ei defnyddio.
Peidiwch â chamddefnyddio’r gwasanaeth brecwast neu unrhyw ddarpariaeth arall yn y gwesty.
Dangoswch ffrwyth yr ysbryd bob amser wrth ddelio â staff y gwesty. Maen nhw’n gofalu am nifer fawr o westeion ac yn ddiolchgar am ein caredigrwydd a’n hamynedd.
Dylai rhieni gadw llygad ar eu plant drwy’r amser yn y gwesty, gan gynnwys lleoliadau fel y dderbynfa, y pwll nofio, yr ystafell ymarfer, ac yn y blaen.
Os oes problem gyda’ch ystafell, rhowch wybod i’r gwesty, neu rhowch wybod i’r Adran Lety yn ystod y gynhadledd.
◼ Gwirfoddoli: Gall unrhyw un sy’n dymuno gwirfoddoli fynd i’r Adran Wirfoddoli ar safle’r gynhadledd. Gall plant dan 16 oed helpu os ydyn nhw’n gweithio gyda’u rhieni neu eu gwarcheidwaid, neu gydag oedolyn arall y mae eu rhieni neu eu gwarcheidwaid yn ei gymeradwyo.
◼ Malta: Cynhelir y gynhadledd ranbarth ar y 5-7 Medi, 2014. Er mwyn rheoli’r nifer sy’n mynychu’r gynhadledd, ac er mwyn trefnu termau ffafriol yn y gwestai, dylai trefniadau gael eu gwneud drwy’r asiantaeth deithio benodedig yn unig. Mae’r manylion ar sut i wneud cais i’w cael yn y llythyr dyddiedig 2 Rhagfyr, 2013 a anfonwyd i bob cynulleidfa.