LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 4/15 tt. 5-7
  • Pwyntiau i’w Cofio ar Gyfer y Gynhadledd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pwyntiau i’w Cofio ar Gyfer y Gynhadledd
  • Ein Gweinidogaeth—2015
  • Erthyglau Tebyg
  • Cadw Ymddygiad Da Ymhlith y Cenhedloedd
    Ein Gweinidogaeth—2014
  • Ymddygiad Sy’n Dod â Chlod i Dduw
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • Ein Cynadleddau Rhanbarth—Tystiolaeth Rymus i’r Gwir
    Ein Gweinidogaeth—2012
Ein Gweinidogaeth—2015
km 4/15 tt. 5-7

Pwyntiau i’w Cofio ar Gyfer y Gynhadledd

  • Amserau’r Rhaglen: Bydd y drysau’n agor am 8:00 yb. Bydd y gerddoriaeth ragarweiniol yn dechrau am 9:20 yb. bob dydd a dyna pryd y dylai pawb fynd i’w seddi er mwyn i’r rhaglen gychwyn mewn modd urddasol. Bydd y rhaglen yn gorffen am tua 5:00 yh. ddydd Gwener a dydd Sadwrn, a thua 4:00 yp. ar y Sul.

  • ‘Rhoi Moliant i Jehofa ar Gân’: Mae pobl Jehofa bob amser wedi moli ef drwy ganu, ac mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o’n haddoliad hyd heddiw. (Salm 28:7) Mae pob sesiwn o’r gynhadledd yn cychwyn gyda cherddoriaeth. Nid rhywbeth yn y cefndir yn unig yw’r gerddoriaeth hon, ond mae wedi ei pharatoi i’n helpu ni i ddysgu am Jehofa a’i addoli. Felly, pan fydd y cadeirydd yn rhoi gwybod bod y gerddoriaeth ar fin chwarae, dylen ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar drwy eistedd a gwrando, yn hytrach na sgwrsio. Ddwywaith y flwyddyn mae aelodau’r gerddorfa yn teithio ar eu liwt eu hunain i Patterson, Efrog Newydd, er mwyn creu cerddoriaeth hyfryd ar ein cyfer. Ar ôl gwrando’n astud ar y gerddoriaeth, dylai pawb foli Jehofa gyda’i gilydd drwy ganu caneuon y Deyrnas.

  • Parcio: Mae defnyddio bysiau wedi ein helpu ni i ddod dros broblemau parcio. Gwerthfawrogwn eich cydweithrediad. Pan ydyn ni’n rheoli’r trefniadau parcio yn y cynadleddau, bydd parcio ar gael am ddim drwy’r gynulleidfa. Fel arfer, mae cyfyngiadau ar nifer y llefydd parcio, felly dylen ni rannu ceir lle mae hynny’n bosibl. Wrth inni rannu tocynnau parcio, ymdrechwn i sicrhau fod pobl anabl neu fethedig yn cael y flaenoriaeth. Dylai pwyllgor gwasanaeth pob cynulleidfa dderbyn ceisiadau am y fath docynnau dim ond pan fo’u gwir angen. Os bydd eich sefyllfa yn newid, a does dim angen y tocyn parcio arnoch bellach, anfonwch y tocyn yn ôl er mwyn i rywun arall ei ddefnyddio. Mewn rhai o’r safleoedd dan do yng nghanol dinasoedd, dim ond mewn meysydd parcio masnachol y byddwch yn gallu parcio.

  • Cadw Seddi: Wrth i ddrysau’r safle agor bob bore, peidiwch â rhuthro i’r seddi fel petai chi’n cystadlu yn erbyn eich brodyr a chwiorydd. Ystyriwch bobl eraill. Efallai bydd angen aberthu ein dymuniadau personol ar gyfer ein brodyr. Bydd ysbryd o hunanaberth yn ei gwneud hi’n amlwg i eraill ein bod ni’n wir Gristnogion, ac yn eu hysgogi nhw i glodfori Duw. (Ioan 13:34, 35; 1 Cor. 13:5; 1 Pedr 2:12) Cewch gadw seddi ar gyfer y rhai sy’n teithio yn eich car, y rhai sy’n byw yn eich cartref, neu’r rhai sy’n astudio’r Beibl gyda chi ar hyn o bryd. Peidiwch â chadw pethau ar seddi nad ydych yn eu defnyddio. Bydd hyn yn gadael i eraill weld bod y seddi hynny ar gael. Mae seddi arbennig ar gael i’r henoed a phobl anabl. Gan fod lle yn brin, dim ond un neu ddau o gynorthwywyr a all eistedd gyda’r rhai sydd angen help arnyn nhw.

  • Gwisgo’n Weddus: Dylai ein gwisg fod yn addas ac yn weddus, ac yn wahanol iawn i ffasiynau eithafol y byd. (1 Tim. 2:9) Wrth inni gyrraedd a gadael y gwesty, ac yn ystod ein hamser hamdden cyn ac ar ôl y sesiynau, rydyn ni eisiau osgoi edrych yn flêr neu’n rhy anffurfiol. Wedyn, bydden ni’n falch o wisgo ein bathodynnau adnabod, ac ni fydden ni’n cilio’n ôl rhag rhoi tystiolaeth pan yw’n addas. Wrth inni fynychu’r gynhadledd, bydd ein hymddygiad a’n gwisg yn denu unigolion diffuant at y newyddion da, a bydd hyn hefyd yn dod â llawenydd i Jehofa.—Seff. 3:17.

  • Cwrteisi Wrth Ddefnyddio Dyfeisiau Electronig: Mae’n gwrtais inni newid gosodiadau ein ffonau a dyfeisiau symudol fel nad ydyn nhw’n tynnu sylw pobl eraill yn ystod y sesiynau. Os ydyn ni’n defnyddio camera, recordydd fideo, tabled electronig, neu ddyfais debyg, rydyn ni eisiau ystyried eraill drwy beidio â’u rhwystro nhw rhag gweld. Hefyd ni fyddai’n gwrtais i decstio neu e-bostio yn ddiangen yn ystod y rhaglen.

  • Cinio: Dewch â bocs bwyd fel na fyddwch chi’n gorfod gadael y gynhadledd amser cinio i nôl bwyd. Gellir dod â bocs oer bach a fydd yn ffitio o dan y sedd. Ni cheir dod â bocsys oer mawr na photeli gwydr i mewn i’r gynhadledd.

  • Cyfraniadau: Gallwn ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r gynhadledd drwy gyfrannu’n wirfoddol at y gwaith byd-eang. Ym Mhrydain, gellir gwneud siec yn daladwy i “International Bible Students Association,” ac yn Iwerddon yn daladwy i “Watch Tower Bible and Tract Society of Ireland.” Gellir hefyd ddefnyddio cardiau debyd neu gredyd.

  • Meddyginiaeth: Os oes angen meddyginiaeth bresgripsiwn arnoch chi, gwnewch yn siŵr fod cyflenwad digonol gyda chi, oherwydd ni fydd meddyginiaeth ar gael yn y gynhadledd. Ni ddylid rhoi chwistrelli clefyd y siwgr a nodwyddau yn y biniau ysbwriel cyffredin ar safle’r gynhadledd, nac yn y gwestai. Dylid cael gwared arnyn nhw’n ddiogel mewn modd addas ar gyfer gwastraff peryglus yn y biniau arbennig yn yr adran Cymorth Cyntaf.

  • Iechyd a Diogelwch: Ceisiwch atal damweiniau rhag digwydd. Er enghraifft, bob blwyddyn mae pobl yn brifo’u hunain o ganlyniad baglu neu syrthio, yn aml oherwydd gwisgo esgidiau gyda sodlau uchel. Mae’n ddoeth i wisgo esgidiau cyfforddus sy’n addas ar gyfer cerdded mewn meysydd parcio, ar risiau serth, ac mewn unrhyw fannau eraill a all fod yn beryglus.

  • Rhai Sy’n Drwm eu Clyw: Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu yn y stadiwm ar radio FM, os bydd ar gael. Er mwyn ei chlywed, bydd angen radio bach FM sy’n gweithio â batri, ynghyd â chlustffonau. Er bod y ddarpariaeth hon ar gael, dydyn ni ddim yn eich annog i wrando arni yn eich car, oni bai fod amgylchiadau arbennig. Anogwn bawb i fwynhau cymdeithasu yn y neuadd ac i uno mewn cân a gweddi.

  • Persawr: Mae cynadleddau sy’n cael eu cynnal dan do yn dibynnu ar beiriannau i dymheru’r aer. Felly, peth caredig fyddai ystyried anghenion y rhai sydd â phroblemau anadlu neu alergedd cyn inni ddefnyddio persawr cryf.—1 Cor. 10:24.

  • Tai Bwyta: Bydd eich ymddygiad da mewn tai bwyta yn dod â chlod i enw Jehofa. Mae’n bwysig inni wisgo mewn modd sy’n addas i Gristnogion, ac i adael tip lle mae hynny’n arferol.

  • Gwestai:

    1. Peidiwch â neilltuo mwy o ystafelloedd nag yr ydych yn bwriadu defnyddio, na rhoi mwy o bobl yn yr ystafell na’r nifer a ganiateir.

    2. Heblaw am sefyllfa argyfwng, peidiwch â chanslo eich ystafell. Os oes angen canslo, cysylltwch â’r gwesty fel bod rhywun arall yn gallu defnyddio’r lle. (Math. 5:37) Pe bai angen canslo eich ystafell, darllenwch bolisi canslo y gwesty. Cadarnhewch yn ysgrifenedig i’r gwesty eich bod wedi canslo eich ystafell.

    3. Os ydych chi’n rhagarchebu gyda’r gwesty gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd, nodwch, mae’n arferol i’r gwesty rewi y cyfalaf yn eich cyfrif i dalu am gyfanswm cost yr ystafell.

    4. Cymerwch droli pan ydych chi’n barod i symud eich bagiau ac ewch â hi’n syth yn ôl er mwyn i eraill ei defnyddio.

    5. Os yw’n arferol yn eich gwlad chi, rhowch tip i’r gweithwyr sy’n cario eich bagiau a gadewch un ar gyfer pwy bynnag sy’n glanhau’ch ystafell.

    6. Peidiwch â chamddefnyddio’r gwasanaeth brecwast neu unrhyw ddarpariaeth fwyd arall yn y gwesty.

    7. Dangoswch ffrwyth yr ysbryd bob amser wrth ddelio â staff y gwesty. Maen nhw’n gofalu am nifer fawr o westeion ac yn ddiolchgar am ein caredigrwydd a’n hamynedd.

    8. Dylai rhieni gadw llygad ar eu plant drwy’r amser yn y gwesty, gan gynnwys lleoliadau fel y lifft, y dderbynfa, y pwll nofio, yr ystafell ymarfer, ac yn y blaen.

    9. Mae cost yr ystafell sydd ar y rhestr swyddogol o westai ydy pris llawn y diwrnod. Os bydd gwesty yn codi gormod arnoch chi, gwrthodwch dderbyn yr hyn sydd ar y bil, a chysylltwch â’r Adran Lety drwy gael hyd i gyfeiriad e-bost IBSA convention sydd ar ibsaconvention.org, neu cewch siarad â nhw wyneb yn wyneb yn y gynhadledd.

    10. Os oes problem gyda’ch ystafell, rhowch wybod i’r Adran Lety drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost IBSA convention sydd ar gael ar ibsaconvention.org, neu cewch siarad â nhw yn y gynhadledd fel eu bod nhw’n gallu eich helpu.

  • Gwirfoddoli: Gall unrhyw un sy’n dymuno gwirfoddoli fynd i’r Adran Wirfoddoli ar safle’r gynhadledd. Gall plant dan 16 oed helpu os ydyn nhw’n gweithio gyda’u rhieni neu eu gwarcheidwaid, neu gydag oedolyn arall y mae eu rhieni neu eu gwarcheidwaid yn ei gymeradwyo.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu