Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Mehefin
“Mae bron pawb rydyn ni’n siarad â nhw eisiau gweld heddwch yn y byd. Ond, eto, mae rhyfeloedd yn parhau. Yn eich barn chi, pam ydy heddwch mor anodd ei gael?” Arhoswch am ymateb. Yna dangoswch wers 5 y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw, a thrafodwch y wybodaeth o dan gwestiwn 4 ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y llyfryn, a threfnwch ddod yn ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
Nodyn: Dylai’r cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth ar Fehefin 1 cynnwys dangosiad o’r cyflwyniad hwn.
The Watchtower Mehefin 1
“Rydyn ni’n picio draw i weld pobl i drafod problem gyffredin. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi profi rhagfarn rywbryd neu’i gilydd. Ydych chi’n meddwl fod unrhyw fan yn y byd lle nad oes rhagfarn o gwbl? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar agwedd Duw tuag at bobl. [Darllenwch Actau 10:34.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod sut y bydd Duw yn cael gwared ar ragfarn unwaith ac am byth.”
Awake! Mehefin
“Hoffwn gael eich barn ar rywbeth. Mae hi’n naturiol i eisiau bywyd gwell. Ydych chi’n meddwl y cawn ni hyn drwy brynu mwy o bethau materol? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar eiriau pwysig Iesu yma. [Darllenwch Luc 12:15.] Mae’r cylchgrawn hwn yn cyflwyno golygwedd gytbwys ynglŷn â phethau materol ac yn cynnig awgrymiadau i’n helpu cadw ein gwario o dan reolaeth.”