Ein Gwefan Swyddogol—Defnyddiwch Hi i Helpu Pobl Sy’n Siarad Iaith Arall
Dangoswch Ein Gwefan Iddyn Nhw: Dangoswch sut mae defnyddio’r rhestr “Iaith y Wefan” i weld y wefan yn eu hiaith eu hunain. (Mewn rhai ieithoedd, dim ond ychydig o’r wefan sydd ar gael.)
Dangoswch Dudalen We yn Eu Hiaith Nhw: Dangoswch dudalen yn un o’n cyhoeddiadau, er enghraifft y llyfr Beibl Ddysgu neu’r traethodyn Hoffech Chi Wybod y Gwir? Dewiswch iaith y person o’r rhestr “Iaith yr Erthygl.”
Gadewch Iddyn Nhw Wrando ar Erthygl: Chwiliwch am erthygl sydd ar gael mewn fformat sain yn iaith y person, a’i chwarae. Os ydych chi’n dysgu iaith arall, gallwch ddysgu’n gyflymach drwy wrando ar recordiadau sain yn yr iaith honno tra rydych yn darllen.—Ewch at “Cyhoeddiadau/Llyfrau a Llyfrynnau” neu “Cyhoeddiadau/Cylchgronau.”
Pregethwch i’r Byddar: Wrth gyfarfod rhywun byddar, chwaraewch fideo yn iaith arwyddion sy’n dangos adnod o’r Beibl, neu bennod o lyfr neu lyfryn, neu draethodyn.—Ewch at “Cyhoeddiadau/Iaith Arwyddion.”
[Diagram ar dudalen 6]
(Ewch i’r cyhoeddiad i weld fformat testun cyflawn)
Triwch Hyn
1 Cliciwch ar ▸ i chwarae’r trac sain (os yw ar gael yn eich iaith) neu ar “Opsiynau Lawrlwytho” i lawrlwytho’r cyhoeddiad.
2 Dewiswch iaith arall o’r rhestr “Iaith y Wefan” i ddangos y tudalen yn yr iaith honno.
3 Cliciwch ar “Nesaf” neu ar ddolen yn y “Cynnwys” i ddarllen erthygl neu bennod arall.