Sut i Dystiolaethu Wrth Ddefnyddio Stondin Lyfrau
Mae defnyddio bwrdd llyfrau neu droli i dystiolaethu wedi profi’n ffordd effeithiol o ddenu pobl â chalonnau gonest at y gwirionedd. (Ioan 6:44) Felly, anogwyd henuriaid i drefnu tystiolaethu cyhoeddus mewn ardaloedd lle mae nifer o gerddwyr. Gan ei bod hi’n bosibl symud trolïau o gwmpas, ar y cyfan, nid oes angen caniatâd yr awdurdodau i’w gosod. Pwy sy’n gymwys i gymryd rhan? Cyhoeddwyr sy’n ddoeth, sy’n cyflwyno eu hunain mewn ffordd barchus, ac sydd â sgiliau cyfathrebu da. Mae’r canlynol yn awgrymiadau o bethau i’w gwneud ac i’w hosgoi er mwyn bod yn fwy llwyddiannus.