Ffordd Newydd a Chyffrous o Dystiolaethu’n Gyhoeddus
1. Beth mae cynulleidfaoedd sydd â mannau prysur wedi cael eu hannog i’w wneud?
1 Mae cynulleidfaoedd lle ceir mannau prysur sy’n gweld llawer o bobl yn cerdded heibio wedi eu hannog i drefnu tystiolaethu’n gyhoeddus, drwy ddefnyddio byrddau neu stondinau symudol. Os ydy’r cyhoeddwyr yn defnyddio stondin symudol, dylai o leiaf un cyhoeddwr sefyll neu eistedd wrth ymyl y stondin. Ond, wrth ddefnyddio bwrdd, dylai dau gyhoeddwr aros wrth ei ymyl. Dylai pob un sy’n defnyddio’r stondinau fod yn gynnes, yn gyfeillgar, ac yn groesawus. Os ydy rhywun yn edrych ar y stondin, gall un o’r cyhoeddwyr ddechrau sgwrs drwy ddweud rhywbeth fel, “Ydych chi erioed wedi meddwl beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y pwnc yna?” Gall un neu ddau o gyhoeddwyr eraill dystiolaethu’n anffurfiol o fewn golwg i’r stondin.
2. Adroddwch brofiad sy’n dangos pa mor effeithiol yw tystiolaethu’n gyhoeddus drwy ddefnyddio stondinau llyfrau.
2 Mae’r dull hwn o bregethu wedi arwain at lawer o astudiaethau Beiblaidd newydd yn cael eu cychwyn. Penderfynodd un fyfyrwraig ysgrifennu traethawd ymchwil am Dystion Jehofa, ond roedd hi’n methu dod o hyd i Neuadd y Deyrnas. Yr wythnos wedyn, gwelodd hi fwrdd llyfrau ar y campws. Dechreuodd astudio’r Beibl, cafodd hi ei bedyddio, a nawr mae’n cymryd rhan yn y math yma o bregethu ei hun.
3. Sut mae rhai yn teimlo am y math yma o dystiolaethu’n gyhoeddus?
3 Dywedodd un chwaer sy’n mwynhau’r math yma o bregethu’n gyhoeddus: “Mae rhai yn stopio i gymryd y cylchgronau diweddaraf. Mae yna rai sydd erioed wedi clywed am Dystion Jehofa o’r blaen. Galla’ i weld bod y math yma o bregethu yn cyrraedd llawer o bobl.” Dywedodd chwaer arall, “Mae hyn yn ffordd newydd a chyffrous o dystiolaethu oherwydd mae’r bobl yn dod atoch chi, a hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw ddiddordeb, maen nhw o leiaf yn chwilfrydig.”
4. Pam mae hi’n bwysig i osod y stondin lyfrau yn yr un lle, ac ar yr un amser bob wythnos?
4 Mae’n bwysig i osod y stondin yn yr un lle, ar yr un dyddiau, ac ar yr un amser bob wythnos. O ganlyniad i hyn, mae pobl yn dod i arfer â gweld y stondinau ac, yn y pen draw, yn teimlo’n ddigon cyfforddus i ddod a gofyn cwestiynau neu i gymryd llenyddiaeth. Ydy eich cynulleidfa chi wedi trefnu i dystiolaethu’n gyhoeddus? Os felly, efallai y gallwch chi gymryd rhan yn y ffordd bleserus ac effeithiol hon o ‘gyhoeddi Teyrnas Dduw.’—Luc 9:60.