Pwysleisiwch Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar Sadwrn Cyntaf y Mis
Gan ddechrau ym mis Mai 2011, cafodd cyhoeddwyr eu hannog i geisio cychwyn astudiaethau Beiblaidd ar Sadwrn cyntaf bob mis. I’r diben hwnnw mae gennyn ni’r llyfryn Newyddion Da sydd wedi ei baratoi ar gyfer dechrau astudiaethau Beiblaidd. Felly, dylai’r cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth ar Sadwrn cyntaf y mis ganolbwyntio ar sut y gallwn ddefnyddio’r llyfryn hwn i ddechrau astudiaethau Beiblaidd a dylai gynnwys dangosiad o’r cyflwyniad.
Gall yr henuriaid ddewis i bob grŵp gwasanaeth gyfarfod ar wahân ar Sadwrn cyntaf y mis, neu y gallan nhw benderfynu cyfuno’r grwpiau ac efallai cyfarfod yn Neuadd y Deyrnas. Sut bynnag, lle mae sawl cynulleidfa yn defnyddio’r un Neuadd y Deyrnas, ni ddylai unrhyw gynulleidfa symud y diwrnod arbennig ar gyfer dechrau astudiaethau Beiblaidd i ddiwrnod arall er mwyn cael cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth wedi ei gyfuno.