Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Mehefin
“Rydyn ni’n cael sgwrs fach efo pobl yn yr ardal am y cwestiwn diddorol hwn. [Dangoswch deitl gwers 5 o’r llyfryn Newyddion Da.] Beth ydych chi’n ei feddwl?” Arhoswch am ymateb. Trafodwch y wybodaeth o dan y cwestiwn cyntaf ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y llyfryn a threfnwch fynd yn ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Mehefin 1
“Mae ysmygu yn lladd tua chwe miliwn bob blwyddyn. Ydych chi’n meddwl gall unrhyw beth gwtogi’r nifer aruthrol hwn? [Arhoswch am ymateb.] Mae gweld beth mae Duw yn ei feddwl am ysmygu wedi helpu llawer i roi’r gorau iddi. Er enghraifft, mae’r adnod hon wedi gwneud i rai feddwl am sut mae ysmygu yn effeithio ar eraill. [Darllenwch 1 Corinthiaid 10:24.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod sut gall gwybod teimladau Duw ar y pwnc helpu rhywun i roi’r gorau i ysmygu.”
Awake! Mehefin
“Mae rhwydweithiau cymdeithasol wedi gwneud hi’n bosibl inni gwrdd â mwy o bobl nag erioed. Ond beth ydych chi’n meddwl dylen ni edrych allan amdano mewn ffrind da? [Arhoswch am ymateb.] Dyma enghraifft o gyngor ymarferol sydd yn y Beibl am gyfeillgarwch. [Darllenwch Iago 1:19.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod pedair egwyddor sy’n ein helpu ni i fod y math o berson mae eraill yn hoffi cael yn ffrind.”