Cyflwyniadau Enghreifftiol
Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
“Ydych chi erioed wedi gofyn, o le daeth yr enw Tystion Jehofa? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar yr ateb yn y Beibl. [Darllenwch Eseia 43:10.] Fel tystion i Dduw, rydyn ni’n cyhoeddi’r newyddion da amdano ef, a’i bwrpas ar gyfer dynolryw. Hefyd, rydyn ni’n cyhoeddi ei enw.” Trowch at y llyfryn Newyddion Da, gwers 2, cwestiwn 3, a thrafodwch y paragraffau.
Awake! Medi
“Buasai’r mwyafrif yn cytuno bod angen arian er mwyn byw. Ond, ydych chi’n meddwl ei bod hi’n beryglus i adael i arian fod yn obsesiwn? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar y rhybudd yma yn y Beibl. [Darllenwch 1 Timotheus 6:9.] Mae’r cylchgrawn hwn yn egluro sut i gael yr agwedd iawn tuag at arian.”