Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Medi
“Mae llawer o bobl yn credu bydd Duw yn eu barnu nhw yn ôl eu ffordd o fyw. Ydych chi’n meddwl bod Dydd y Farn yn rhywbeth i’w ofni neu’n rhywbeth i edrych ymlaen ato? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae hwn yn ei ddweud.” Rhowch gopi o’r Watchtower Medi 1 i’r deiliad, trafodwch y deunydd o dan yr is-bennawd cyntaf ar dudalen 16, a darllenwch o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y cylchgronau, a threfnwch i alw’n ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Medi 1
“Mewn llawer o wledydd mae merched yn cael eu cam-drin. Yn anffodus, mae crefydd wedi cyfrannu at hyn. Ydych chi’n meddwl bod Duw yn gwir ofalu am ferched? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar sut mae’r Beibl yn annog gwŷr i drin eu gwragedd. [Darllenwch Effesiaid 5:28, 29.] Mae’r cylchgrawn hwn yn dangos beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ferched o safbwynt Duw.”
Awake! Medi
“Mae llawer yn dweud y bydd bywyd ar y ddaear yn dod i ben ryw ddydd, efallai o ganlyniad i ryfel niwclear neu drychineb naturiol. Ydych chi’n meddwl bod unrhyw wirionedd yn y syniadau hyn, neu ai ffantasi ydy’r cwbl? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Beibl yn rhoi addewid calonogol. [Darllenwch Salm 37:29.] Mae’r cylchgrawn hwn yn ystyried rhai syniadau cyffredin am ddiwedd y byd yn ogystal â’r hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud am y dyfodol.”