Cyflwyniadau Enghreifftiol
Hoffech Chi Wybod y Gwir?
“Ar adegau o ryfel, mae’r ddwy ochr yn credu bod Duw yn eu cefnogi. Ydych chi’n meddwl bod Duw yn hapus i weld cymaint o ryfeloedd yn digwydd yn y byd? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r daflen hon yn esbonio pam mae’r cwestiwn yma’n codi, a sut bydd Duw yn dod â diwedd i ryfel am byth.” Darllenwch Salm 46:9 a chynnig y daflen.
Awake! Tachwedd
“Mae miliynau o bobl ledled y byd wedi cael llond bol ar gelwyddau a dysgeidiaethau negyddol nifer o grefyddau. Beth fydd dyfodol crefydd yn eich barn chi? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod proffwydoliaeth ddiddorol o’r Beibl sy’n dweud byddai pobl yn gadael gau grefyddau yn ein hoes ni, ac sy’n rhagfynegi diwedd gau grefydd.”