Cyflwyniadau Enghreifftiol
The Watchtower Chwefror 1
“Rydyn ni’n cynnig un o’r rhain i bawb yn yr ardal heddiw. Mae’n dangos pa mor ymarferol yw’r Beibl. Dyma’ch copi chi. [Rhowch gopi iddo o’r daflen Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Beibl?] Mae rhai yn gofyn, ‘Lle ga’ i hyd i gyngor a all helpu gyda ’ngwaith?’ Sylwch beth mae’r adnod yma yn ei ddweud amdano. [Darllenwch Pregethwr 3:13.] Mae’r Beibl yn cynnwys egwyddorion sy’n ein helpu i fwynhau ein gwaith. Mae’r Watchtower yma yn egluro’n bellach. Hoffech chi ei ddarllen?”
Awake! Chwefror
“Rydyn ni’n pigo draw i ddangos y rhifyn newydd o Awake! Mae’n trafod yr ateb i’r cwestiwn diddorol yma. [Dangoswch y clawr.] Hoffwn gael eich barn ar yr enghraifft hon yn y cylchgrawn. [Darllenwch Diarhebion 29:11.] Ydych chi’n meddwl bod yr adnod yma yn berthnasol heddiw? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Awake! yn trafod pedwar egwyddor ac yn egluro sut bydd eu rhoi nhw ar waith yn ein helpu.”