Yn Ystod Adeg y Goffadwriaeth, a Fyddwch Chi’n Efelychu Sêl Jehofa a Iesu?
1. Pa ymdrech mae Tystion Jehofa yn ei gwneud adeg y Goffadwriaeth?
1 Mae Jehofa yn selog wrth gyflawni ei bwrpas. Mae Eseia 9:7 yn cyfeirio at rai o fendithion Teyrnas Dduw gan ddweud: “Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn.” Yn yr un modd, wrth i Fab Duw bregethu ar y ddaear dangosodd sêl fawr dros wir addoliad. (Ioan 2:13-17; 4:34) Bob blwyddyn trwy’r byd i gyd, mae miliynau o gyhoeddwyr yn gwneud ymdrech arbennig i efelychu sêl Jehofa a Iesu drwy wneud mwy yn y weinidogaeth. A fyddwch chi’n un ohonyn nhw?
2. Beth fydd sêl yn ein hysgogi ni i wneud ar 7 Mawrth?
2 Yr Ymgyrch: Eleni, bydd yr ymgyrch i hysbysebu’r Goffadwriaeth yn dechrau ar ddydd Sadwrn, 7 Mawrth. Paratowch nawr i gael rhan selog yn y weinidogaeth. Bydd cynulleidfaoedd yn llawn cyffro wrth iddyn nhw geisio galw ar gymaint o bobl â phosibl. Gwnewch ymdrech lew i wahodd eich astudiaethau, galwadau, cyd-weithwyr, perthnasau, a ffrindiau ysgol drwy roi gwahoddiadau iddyn nhw a thrwy ddefnyddio jw.org.
3. Sut gallwn ni ehangu ein gweinidogaeth yn ystod Mawrth ac Ebrill?
3 Arloesi’n Gynorthwyol: Hefyd, bydd sêl yn ein hysgogi ni i ehangu ein gweinidogaeth. Yn sicr, bydd llawer yn gallu arloesi’n gynorthwyol yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill oherwydd y dewis o wneud 30 awr. Yn ystod eich addoliad teuluol neu eich astudiaeth bersonol, gweddïwch ac ystyriwch sut y gallwch chi wneud hyn. (Diar. 15:22) Gall eich brwdfrydedd dros yr ymgyrch hon ysgogi eraill i fod yn selog. Drwy newid eich amgylchiadau i wneud mwy, byddwch chi’n efelychu sêl Iesu.—Marc 6:31-34.
4. Pa fendithion a ddaw o efelychu sêl Jehofa a Iesu?
4 O ganlyniad i efelychu sêl Jehofa a Iesu yn ystod adeg y Goffadwriaeth, byddwch yn cael bendithion mawr. Bydd llawer mwy yn y diriogaeth yn derbyn tystiolaeth. Byddwn ni’n mwynhau’r llawenydd sy’n dod o roi i eraill. (Act. 20:35) Ond, yn bwysicach nag unrhyw beth arall, byddwn ni’n plesio ein Duw selog a’i Fab.