Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Tystiolaethu i Rywun Sy’n Siarad Iaith Arall
Pam Mae’n Bwysig? Mae gan Jehofa ddiddordeb yn iechyd ysbrydol pobl o ‘bob cenedl.’ (Act. 10:34, 35) Felly, mynegodd Iesu y buasai’r newyddion da yn cael eu pregethu “drwy’r byd i gyd” ac “i’r holl genhedloedd.” (Math. 24:14) Proffwydodd Sechareia y byddai unigolion yn ymateb “o blith cenhedloedd o bob iaith.” (Sech. 8:23) Yn ôl gweledigaeth yr apostol Ioan, byddai goroeswyr y gorthrymder mawr yn dod o “holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd.” (Dat. 7:9, 13, 14) O ystyried hynny, dylen ni geisio tystiolaethu i’r rhai rydyn ni’n eu cwrdd yn ein tiriogaeth sy’n siarad ieithoedd eraill.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Yn ystod eich noson Addoliad Teuluol nesaf, trefnwch sesiwn ymarfer lle rydych yn tystiolaethu i rywun nad yw’n siarad eich iaith chi.