EIN BYWYD CRISTNOGOL
Wedi Ein Trefnu i Bregethu i Bawb
Yn union fel trefnodd Jehofa yr Israeliaid, mae’n trefnu ei bobl heddiw i wneud ei ewyllys. Ledled y byd, mae swyddfeydd cangen, cylchdeithiau, cynulleidfaoedd, a grwpiau gweinidogaeth yn cydweithio i bregethu’r newyddion da. Rydyn ni’n pregethu i bawb, gan gynnwys rhai sy’n siarad iaith arall.—Dat 14:6, 7.
Wyt ti wedi ystyried dysgu iaith newydd er mwyn helpu eraill i ddysgu’r gwir? Hyd yn oed os nad oes gen ti’r amser i ddysgu iaith, gelli di ddefnyddio’r ap JW Language i ddysgu cyflwyniad syml. Yna, ar ôl ei ddefnyddio yn y weinidogaeth, gelli di brofi’r un llawenydd â’n brodyr yn y ganrif gyntaf. Roedden nhw’n llawen o weld pobl yn syfrdan ar ôl clywed, yn eu hiaith eu hunain, “y pethau rhyfeddol mae Duw wedi eu gwneud.”—Act 2:7-11.
GWYLIA’R FIDEO DOD YN FFRIND I JEHOFA—PREGETHU MEWN IAITH ARALL, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Pryd gelli di ddefnyddio’r ap JW Language?
Beth yw rhai o’i nodweddion?
Mae angen i bobl o bob iaith glywed y newyddion da
Pa ieithoedd sy’n cael eu siarad yn dy diriogaeth di?
Beth dylet ti ei wneud os ydy rhywun sy’n siarad iaith arall yn dangos diddordeb yn neges y Deyrnas?—od-E 100-101 ¶39-41