EIN BYWYD CRISTNOGOL
Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Cysylltu â Phawb yn Ein Tiriogaeth
PAM MAE’N BWYSIG: Proffwydodd Sechareia y byddai pobl o bob iaith a chenedl yn ymateb yn ffafriol i’r newyddion da. (Sech 8:23) Ond pwy fydd yn eu dysgu? (Rhuf 10:13-15) Mae gennyn ni’r fraint a’r cyfrifoldeb i rannu’r newyddion da â phawb yn ein tiriogaeth.—od-E 84 ¶10-11.
SUT I FYND ATI?
Rhaid paratoi. A wyt ti’n cwrdd â phobl sy’n siarad iaith arall? Gelli di ddefnyddio’r ap JW Language i ddysgu cyflwyniad syml. Neu gelli di ddangos person ar dy ddyfais symudol sut i gael hyd i fwy o wybodaeth yn ei iaith ei hun ar jw.org
Bydda’n effro. Wrth weithio o ddrws i ddrws, yn lle anwybyddu pobl sy’n cerdded heibio neu’n aros yn eu ceir, gelli di dystiolaethu iddyn nhw. Wrth dystiolaethu’n gyhoeddus, canolbwyntia ar dy brif nod, sef rhoi tystiolaeth
Bydda’n ddiwyd. Dal ati i geisio cyrraedd y rhai nad oedd gartref. Gwna ymdrech i gwrdd â rhywun ym mhob tŷ, efallai ar adeg wahanol neu ar ddiwrnod arall o’r wythnos. Er mwyn cyrraedd rhai, mae’n bosib y bydd rhaid cysylltu drwy lythyr, ffôn, neu dystiolaethu’n anffurfiol
Datblyga’r diddordeb. Galwa’n ôl yn brydlon ar unrhyw ddiddordeb. Os yw’r person yn siarad iaith wahanol, ceisia ddod o hyd i rywun sy’n gymwys i’w helpu yn ei iaith ei hun. Dylet ti ddal ati i alw arno nes i gyhoeddwr sy’n siarad ei iaith gysylltu ag ef.—od-E 94 ¶39-40
GWYLIA’R FIDEO PREACHING IN “THE MOST DISTANT PART OF THE EARTH,” AC YNA GOFYNNA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
Sut gwnaeth y brodyr a chwiorydd baratoi ar gyfer cysylltu â phobl mewn tiriogaeth anghysbell? (1Co 9:22, 23)
Pa heriau oedd rhaid iddyn nhw eu gorchfygu?
Pa fendithion wnaethon nhw eu mwynhau?
Pa ymdrechion elli di eu gwneud i gysylltu â mwy o bobl yn dy diriogaeth?