Cadwch
Ydych Chi’n Defnyddio’r Llyfrynnau Hyn?
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
Wedi ei ysgrifennu ar gyfer pobl sy’n gwybod fawr ddim am y Beibl, yn enwedig y rhai nad ydyn nhw’n perthyn i grefydd Gristnogol
Sut i’w gynnig: “Hoffwn gael eich sylwadau ar y geiriau hyn. [Darllenwch Salm 37:11, y cyfeirir ati yn rhan 11.] Sut olwg fydd ar y ddaear ar ôl i’r broffwydoliaeth hon gael ei chyflawni? [Arhoswch am ymateb.] Dyma un enghraifft o’r math o gysur a gobaith y gall pobl o bob cefndir ei gael drwy astudio’r Beibl.” Darllenwch y paragraff ar frig tudalen 3, a chynigiwch y llyfryn.
Rhowch gynnig ar hyn: Os ydych chi’n astudio’r Beibl gan ddefnyddio’r llyfr Beibl Ddysgu gyda rhywun nad yw’n dod o gefndir Cristnogol, cymerwch ychydig o funudau ar ddechrau neu ar ddiwedd pob astudiaeth i drafod un rhan o’r llyfryn hwn, er mwyn rhoi darlun cyffredinol o gynnwys y Beibl.
Llyfr i Bawb
Wedi ei ysgrifennu ar gyfer pobl sydd wedi cael addysg ond nad ydyn nhw’n gwybod llawer am y Beibl
Sut i’w gynnig: Darllenwch 2 Timotheus 3:16, 17. Yna dywedwch: “A ydych chi’n cytuno bod y Beibl wedi ei ysbrydoli gan Dduw? Neu ydych chi’n meddwl ei fod yn llyfr da a dyna i gyd? [Arhoswch am ymateb.] Mae pawb a’i farn ar y cwestiwn hwn, ond rydyn ni wedi sylwi mai ychydig o bobl sydd wedi edrych ar y Beibl drostyn nhw eu hunain. [Darllenwch y profiad o dan y teitl ar dudalen 3.] Mae’r llyfryn hwn yn rhoi rhesymau i bawb ystyried yr hyn sydd yn y Beibl, beth bynnag fo’u cefndir neu’u cred.”
Rhowch gynnig ar hyn: Os yw’r deiliad yn cymryd y llyfryn, dywedwch: “Mae llawer yn meddwl bod y Beibl a’i ddysgeidiaeth yn ddibwys oherwydd bod crefyddau wedi eu camddefnyddio. Tro nesaf, hoffwn ddangos enghraifft ichi.” Pan ewch yn ôl, ystyriwch rai o’r pwyntiau ar dudalennau 4-5.
Dod yn Ffrind i Dduw!
Wedi ei ysgrifennu ar gyfer pobl heb lawer o addysg neu sgiliau darllen
Sut i’w gynnig: “Ydych chi’n meddwl bod hi’n bosib inni fod yn ffrind i Dduw? [Arhoswch am ymateb. Yna darllenwch Iago 2:23.] Mae’r llyfryn hwn yn esbonio sut gallwn ni fod yn ffrind i Dduw, fel yr oedd Abraham.”
Rhowch gynnig ar hyn: Naill ai ar yr alwad gyntaf neu ar yr ail alwad, dangoswch sut i astudio’r Beibl gan drafod rhan o wers 1, neu’r wers gyfan.
A Gafodd Bywyd ei Greu?
Wedi ei ysgrifennu er mwyn ein helpu ni i resymu gyda phobl sy’n credu mewn esblygiad, pobl agnostig ac anffyddwyr
Sut i’w ddefnyddio wrth siarad â rhywun sy’n anffyddiwr neu sy’n credu mewn esblygiad: “Mae bron pob gwerslyfr gwyddoniaeth heddiw yn dysgu esblygiad. Ydych chi’n credu mai theori yw esblygiad, neu ydych chi’n meddwl erbyn hyn ei fod wedi ei sefydlu fel ffaith? [Arhoswch am ymateb.] Os ydyn ni’n mynd i benderfynu ar sail gwybodaeth, mae’n debyg y byddech chi’n cytuno bod angen edrych ar ddwy ochr y ddadl. Mae’r llyfryn hwn yn cyflwyno tystiolaeth sydd wedi peri i lawer gredu bod bywyd wedi cael ei greu.”
Rhowch gynnig ar hyn: Os ydych chi’n mynd i’r ysgol, gadewch y llyfryn ar eich desg i weld a yw’n ennyn diddordeb eich ffrindiau ysgol.
Pan Fo Rhywun Rydych yn Ei Garu yn Marw
Wedi ei ysgrifennu ar gyfer y rhai sydd angen cysur, er mwyn cryfhau eu ffydd yn yr atgyfodiad
Sut i’w gynnig: “Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno mai profedigaeth yw un o’r pethau mwyaf anodd inni ei wynebu. Beth rydych chi’n ei feddwl sy’n helpu pobl i ymdopi? [Arhoswch am ymateb.] Mae llawer o bobl wedi cael cysur yn yr hyn a ddywedodd Iesu Grist yma. [Darllenwch Ioan 5:21, 28, 29 o dudalen 27 yn y llyfryn.] Sylwch ar y llun ar dudalen 26. [Ystyriwch y llun o atgyfodiad Lasarus.] Mae’r llun hwn yn dangos Iesu Grist yn atgyfodi Lasarus. Mae’r llyfryn yn trafod sut gallwn ni gael cysur nawr ac yn awgrymu ffyrdd da inni gysuro pobl eraill.”
Rhowch gynnig ar hyn: Os yw’r person yn derbyn y llyfryn, darllenwch baragraff 4 ar dudalen 28 a dweud: “Pan wela’ i chi tro nesaf, hoffwn i ddangos i chi beth mae’r Beibl yn ei addo ar gyfer y dyfodol.” Pan ewch chi’n ôl, ystyriwch un o’r pwyntiau ar dudalen 30.