Cyflwyniadau Enghreifftiol
The Watchtower 1 Awst
“Rydyn ni’n galw heddiw er mwyn helpu pobl i ymdopi â rhywbeth sy’n effeithio arnon ni i gyd. Un o’r pethau anoddach i’w hwynebu mewn bywyd ydy colli rhywun annwyl. Ydych chi’n cytuno? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar yr addewid calonogol hwn yn y Beibl. [Darllenwch Datguddiad 21:3, 4.] Mae’r Beibl yn rhoi’r gobaith inni y bydd ein hanwyliaid yn dod yn ôl yn fyw. Mae’r cylchgrawn hwn yn egluro sut bydd hyn yn digwydd.”
A Gafodd Bywyd Ei Greu?
“Mae rhai pobl yn credu y cafodd ddynolryw ei chreu, tra bod eraill yn credu mewn esblygiad. Beth yw eich barn chi? [Arhoswch am ymateb. Trowch at dudalen 18.] Mae’r llyfryn hwn yn annog pobl i edrych ar sail eu daliadau, ac yn trafod tri myth a ffeithiau efallai na fyddech chi wedi eu hystyried o’r blaen.”