Cyflwyniadau Enghreifftiol
A Gafodd Bywyd ei Greu?
“Rydyn ni’n galw heddiw er mwyn tynnu sylw pobl at y Beibl. Mae llawer o bobl yn teimlo bod gwyddoniaeth fodern yn profi’r Beibl yn anghywir. Beth yw eich barn chi am y Beibl? Ydych chi’n meddwl gallwn gredu beth mae’n ei ddweud? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar yr esiampl ddiddorol yma o gywirdeb gwyddonol y Beibl. [Darllenwch Job 26:7.] Mae’r llyfryn hwn yn dangos sut mae’r byd o’n cwmpas yn profi bod ’na greawdwr.”
Awake! Mehefin
“Gan fod nifer o’n cymdogion yn ymdopi â salwch, rydyn ni’n galw heibio er mwyn dangos adnod galonogol o’r Beibl. [Darllenwch Eseia 33:24a.] Sut buasai ein bywydau yn wahanol os nad oedd salwch yn bodoli? [Arhoswch am ymateb.] Wrth inni ddisgwyl i’r broffwydoliaeth yma ddod yn wir, mae yna bum cam syml gallwn eu cymryd i wella ein hiechyd. Mae’r cylchgrawn yma yn esbonio’n bellach.”