RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH
Cynnal Astudiaeth gan Ddefnyddio’r Llyfryn Newyddion Da
Darllenwch y cwestiwn mewn print trwm er mwyn helpu’r person i weld y prif bwynt.
Darllenwch y paragraff sy’n dilyn.
Darllenwch yr adnodau mewn italig, a gofynnwch gwestiynau mewn modd caredig er mwyn helpu’r person i weld sut mae’r adnodau yn ateb y cwestiwn mewn print trwm.
Os oes paragraff arall o dan yr un cwestiwn, dilynwch gam 2 a 3 eto. Os oes fideo ar jw.org sy’n cyd-fynd â’r cwestiwn, dangoswch hwnnw yn ystod y sgwrs.
Er mwyn sicrhau bod y person wedi deall y prif bwynt, gofynnwch iddo ateb y cwestiwn mewn print trwm.