LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb22 Gorffennaf t. 13
  • Ymgyrch Arbennig i Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ym Mis Medi

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ymgyrch Arbennig i Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ym Mis Medi
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut i Ddefnyddio Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
    Ein Gweinidogaeth—2013
  • Ymgyrch Arbennig i Gyhoeddi Teyrnas Dduw ym Mis Medi!
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Ydych Chi’n Defnyddio’r Llyfrynnau Hyn?
    Ein Gweinidogaeth—2012
  • Defnyddio’r Llyfryn Newyddion Da i Ddysgu Eraill
    Ein Gweinidogaeth—2015
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
mwb22 Gorffennaf t. 13
Collage: Y teulu o’r llun yn yr erthygl “Gosoda Amcanion ar Gyfer y Flwyddyn Wasanaeth Nesaf—Arloesi” yn pregethu i eraill. 1. Mae’r fenyw ifanc a’i mam yn trafod y llyfryn “Mwynhewch Fywyd am Byth!” gyda menyw wrth ddrws ei fflat. 2. Mae’r fam-gu yn defnyddio’r llyfryn “Mwynhewch Fywyd am Byth!” i gynnal astudiaeth dros y ffôn. 3. Mae’r tad a’r fam yn sefyll ar bwys troli llenyddiaeth sy’n dangos y llyfryn “Mwynhewch Fywyd am Byth!” ac sy’n hysbysebu ein cwrs Beiblaidd am ddim.

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Ymgyrch Arbennig i Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ym Mis Medi

Yn ystod mis Medi, byddwn ni’n gwneud ymdrech arbennig i gynnig astudiaethau Beiblaidd i bawb, gan ddefnyddio’r llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! Mae’r opsiwn ar gael i gyhoeddwyr sydd eisiau arloesi’n gynorthwyol wneud 30 awr. Sut gallwn ni gael rhan yn yr ymgyrch hon?

  • Ar yr Alwad Gyntaf: Defnyddia dudalen gefn y llyfryn i ennyn diddordeb, a cheisia dangos sut rydyn ni’n ei astudio. Cofia rai sydd wedi dangos diddordeb yn y gorffennol, gan gynnwys ail alwadau. Hyd yn oed os ydyn nhw wedi gwrthod astudio o’r blaen, efallai bydd ganddyn nhw ddiddordeb yn y llyfryn newydd a’r ffordd newydd o astudio. Os nad ydy unrhyw un gartref ddylen ni ddim gadael llyfryn na’i anfon mewn llythyr i rai sydd heb ddangos diddordeb. Efallai bydd pwyllgor gwasanaeth y gynulleidfa yn trefnu cyfarfodydd ychwanegol ar gyfer y weinidogaeth yn ystod y mis.

  • Cyfleoedd Eraill: Dylai’r llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! gael ei ddangos ar drolïau llenyddiaeth os ydy dy gynulleidfa yn eu defnyddio nhw. Dyweda wrth rai sy’n dangos diddordeb fod ’na gwrs Beiblaidd am ddim ar gael gyda’r llyfryn. Gelli di ddangos sut rydyn ni’n astudio yn y fan a’r lle, neu drefnu i wneud hynny yn nes ymlaen. Gall yr arolygwr gwasanaeth drefnu i gyhoeddwyr cymwys ymweld â busnesau i gynnig astudiaethau Beiblaidd. Gelli di hefyd gynnig astudiaeth Feiblaidd i gyd-weithwyr neu i bobl rwyt ti’n cwrdd â nhw wrth dystiolaethu’n anffurfiol.

Gorchmynnodd Iesu inni wneud disgyblion a’u dysgu nhw. (Mth 28:19, 20) Bydd yr ymgyrch arbennig hon yn ein helpu ni i wneud hynny, gan ddefnyddio Mwynhewch Fywyd am Byth!

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu